Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gorymdaith gweithwyr i achub gwaith dur yng Nghasnewydd
Mae gorymdaith wedi cael ei chynnal yng Nghasnewydd i wrthwynebu bwriad cwmni Tata i gau gwaith dur Orb sy'n cyflogi 380 o weithwyr.
Fis diwethaf cyhoeddodd Tata eu bod am gau'r safle ar 么l methu a dod o hyd i brynwr.
Fe wnaeth gweithwyr orymdeithio drwy Gasnewydd ddydd Sadwrn.
Mae'r ffatri yn gwneud dur ar gyfer offer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo trydan.
Cafodd ei roi ar y farchnad ym Mai 2018 gyda Tata yn dweud eu bod am ganolbwyntio ar elfennau mwy craidd o'r busnes
Dywed Tata y byddai'n costio 拢50m i uwchraddio'r gwaith dur er mwyn ei wneud yn fwy cystadleuol.
Mae'r safle, sy'n cyflogi 380 o weithwyr, yn cynhyrchu math arbennig o ddur sy'n cael ei ddefnyddio mewn moduron a thrawsnewidwyr i alluogi cludo trydan mewn un cyfeiriad yn hytrach na dau.
Un o'r rhai oedd yn gorymdeithio oedd Robert Spencer sydd wedi gweithio yn Orb am 15 mlynedd.
Dywedodd ei fod yn poeni am y dyfodol.
"Heb swydd galli ddim darparu ar gyfer fy mhlant," meddai.
"Byddwn i hefyd wedi hoffi gweld dyfodol i'm mhlant gyda'r cwmni, mae'n bechod ei fod o'n cael ei daflu ffwrdd."