Ffermwyr am gael atebion gan hufenfa
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr amaethyddol yn dweud eu bod yn ceisio cael "eglurhad ar frys" am sefyllfa hufenfa yn y gogledd ddwyrain ar 么l honiadau gan ffermwyr nad yw'r safle yn fodlon derbyn eu llaeth.
Dywed ffermwyr sy'n cyflenwi Tomlinsons Dairies yn Wrecsam eu bod wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ddod o hyd i gyflenwr arall i brosesu eu llaeth - ond nad ydynt wedi cael eglurhad am y penderfyniad.
Mae cais wedi cael ei wneud i'r hufenfa am sylw.
Dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru eu bod yn "ymchwilio er mwyn ceisio dod i ddeall beth yn union yw'r broblem".
Yn 么l Keith Thompson sy'n ffermio yn lleol bu'n rhaid iddo dreulio bore Sul yn ceisio dod o hyd i gwmni arall i brosesu'r 4,500 litr o laeth mae'n cynhyrchu yn ddyddiol.
"Fy mlaenoriaeth oedd sicrhau prynwyr," meddai.
"Dyna pam fod fy llaeth ar ei ffordd i Sir Gaerhirfryn."
Ychwanegodd iddo dderbyn neges destun gan asiant amaethyddol yn ei gynghori i ddod o hyd i brynwr newydd fore Sul.
Nid yw'n glir ar hyn o bryd faint o amaethwyr sydd wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd NFU Cymru eu bod yn ceisio "eglurhad ar frys" a'u bod yn "ymchwilio ymhellach i ddeall y broblem a chanfod yr effaith bosib ar aelodau."
"Byddwn yn cydweithio er mwyn helpu unrhyw un o'n haelodau sydd wedi eu heffeithio lle mae hynny'n bosib," meddai'r llefarydd.
Yn 2017 fe wnaeth hufenfa Tomlinsons Dairies ehangu ei storfeydd ar 么l derbyn 拢5m gan Lywodraeth Cymru, 拢2m gan Gyllid Cymru a 拢14.5m gan HSBC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2015