Cynnig gwahardd gwellt, troellwyr a phecynnau plastig

Gallai gwellt, troellwyr a chyllyll a ffyrc plastig untro gael eu gwahardd yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Bydd Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar gyfyngu gwerthiant y plastig sy'n cael ei daflu fwyaf aml.

Mae gweinidogion Lloegr yn bwriadu rhoi cyfyngiadau ar nwyddau fel gwellt a throellwyr o fis Ebrill.

Ond byddai cynlluniau'r is-weinidog yng Nghymru, Hannah Blythyn, yn mynd ymhellach gan ddilyn rheolau'r Undeb Ewropeaidd.

Hefyd wedi eu cynnwys gan y gwaharddiad fyddai cyllyll a ffyrc plastig, pecynnau bwyd polystyren a chynhwyswyr diodydd plastig.

Mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu, ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn bwriadu gwahardd yr eitemau - ar 么l ymgynghoriad.

Cafodd trafodaeth yn y Senedd ei galw gan AC Llafur, Huw Irranca-Davies.

Dywedodd y byddai deddf newydd yn rhoi Cymru "ar flaen y gad wrth leihau gwastraff plastig".

Galwodd am "drethi a thollau priodol i leihau cynhyrchiant a defnydd plastigau untro yn sylweddol".

Ychwanegodd y dylai'r llywodraeth ystyried atal y defnydd o fagiau plastig yn llwyr, gan fynd y mhellach na'r gost o 5c am fag ar hyn o bryd.

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd cefnogaeth gan aelodau Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr.