大象传媒

Ateb y Galw: Chisomo Phiri

  • Cyhoeddwyd
Chisomo PhiriFfynhonnell y llun, Chisomo Phiri

Chisomo Phiri sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Catrin Nye yr wythnos diwethaf.

Mae Chisomo yn gweithio 芒 sefydliad T卯m Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru. Pan oedd hi'n swyddog menywod gydag UCM Cymru, enillodd wobr Dewis y Bobl Chwarae Teg 2019 am ei hymgyrch lwyddiannus i roi diwedd ar dlodi mislif yng Nghymru.

Hi oedd Llywydd benywaidd du cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cynta' ydi dechrau yn y meithrin a gwneud fy ffrind gorau cynta' (dwi ddim yn cofio'i henw hi nawr...)

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jesse Macartney! O'n i'n dwli ar ei g芒n Beautiful Soul.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae hyn yn codi gymaint o gywilydd arna i... ond fe 'nes i biso fy hun ar fy stepen drws ffrynt fy hun ac fe welodd fy nghymydog fi wrthi...

O archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dydd Mawrth yma fel mae'n digwydd. O'n i'n cael diwrnod isel iawn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Brathu'r croen ar ymylon fy ewinedd - YCHAFI.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bae y Tri Chlogwyn yn Abertawe. Dyma fy hoff draeth ac mae'n dod ag atgofion melys yn 么l o'r brifysgol.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy noson gyntaf i yn Glastonbury eleni yn gwylio Stormzy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Chisomo yn un o'r miloedd o bobl a wyliodd Stormzy ar y Pyramid Stage yng ng诺yl Glastonbury eleni

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Driven, trugarog, hilarious.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hoff lyfr: To Kill a Mockingbird, Harper Lee.

Hoff ffilm: The Shawshank Redemption.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

'Swn i wrth fy modd yn cael diod gyda Whitney Houston, oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi mor ysbrydoledig, ac o'n i wrth fy modd gyda'i cherddoriaeth pan o'n i'n tyfu lan.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Nes i gyrraedd y rownd teledu o'r rhaglen Junior Apprentice, gydag Alan Sugar.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn anffodus, ni chafodd Chisomo swydd gan Alan Sugar

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Byddwn i'n ei dreulio ar y traeth, yn cael BBQ gyda fy ffrindiau agosaf a'n nheulu, yn hel atgofion ac yn gwneud yn si诺r fod pawb yn gwybod gymaint ry'n ni'n caru ein gilydd.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Maroon 5, Shiver - mae'n g芒n ar fy hoff albwm ac mae'r unawd git芒r yn EPIC!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: P芒迟茅 cyw i芒r a hwyaden, siytni winwns coch, bara

Prif gwrs: St锚c syrlwyn, chips, saws pupur du

Pwdin: Eton mess

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Michelle Obama

Ffynhonnell y llun, The Washington Post
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tybed sut beth fyddai treulio diwrnod yn esgidiau Michelle Obama?

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Fay Jones

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw