大象传媒

Gorfodi newid i gynllun ailwylltio yn y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Bele'r coedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd belaod coed eu hailgyflwyno i'r ardal yn 2015

Mae elusen ailwylltio dadleuol wedi cyhoeddi y bydd yn gadael prosiect amgylcheddol yn y canolbarth oherwydd gwrthwynebiad iddi gan bobl leol.

Roedd Rewilding Britain yn brif bartner ym mhrosiect O'r Mynydd i'r M么r sy'n anelu i gynyddu bioamrywiaeth ac adfer ecosystemau mewn 10,000 hectar o'r canolbarth a bron i 30,000 hectar o f么r ym Mae Ceredigion.

Ond roedd presenoldeb y gr诺p ailwylltio fel un o'r partneriaid wedi corddi llawer sy'n byw yn ardal y prosiect, sy'n rhedeg o gopaon mynyddoedd Pumlumon i lawr i aber afon Dyfi.

Mae O'r Mynydd i'r M么r wedi derbyn 拢3.4m o gyllid oddi wrth yr Endangered Landscapes Programme.

Ailwylltio

Mae'n brosiect pum mlynedd sy'n gobeithio adfer amgylchedd ac economi'r canolbarth drwy gynnig grantiau a chefnogaeth i fusnesau a sefydliadau lleol sy'n rhannu'r un weledigaeth.

Ond roedd nifer o wrthwynebwyr yn amau mai'r nod yn y pen draw oedd ailwylltio - caniat谩u i fyd natur dyfu'n rhydd a lleihau r么l amaethyddiaeth yn yr ardal.

Dywedodd Melanie Newton, cyfarwyddwr O'r Mynydd i'r M么r, bod y pryderon yn "ddi-sail ac nad oedd y prosiect yngl欧n ag ailwylltio ond yn hytrach yn ymwneud 芒 chynaladwyedd tirwedd a sut y gallai hynny weithio ochr yn ochr gyda dulliau traddodiadol o ffermio".

Serch hynny, roedd gr诺p cymunedol yn parhau i ddweud na fyddai ei aelodau - oedd yn cynnwys llawer o ffermwyr a thirfeddianwyr - yn cydweithio gyda'r prosiect tra bod Rewilding Britain yn rhan ohono.

A nawr mae O'r Mynydd i'r M么r wedi cyhoeddi y bydd Rewilding Britain yn gadael oherwydd y gwrthwynebiad.

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd llefarydd y prosiect: "Daw'r penderfyniad yn sgil adborth gan aelodau'r gymuned a oedd yn anfodlon gyda rhan Rewilding Britain yn y prosiect.

"O ganlyniad, mae partneriaid O'r Mynydd i'r M么r - gan gynnwys Rewilding Britain - yn teimlo bod angen gwneud newidiadau yn y ffordd mae'r prosiect yn cael ei redeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd newidiadau i'r ffordd bydd prosiect O'r Mynydd i'r M么r yn cal ei reoli yn 么l Melanie Newton

Dywedodd Melanie Newton: "Mae'r gymuned wrth galon O'r Mynydd i'r M么r, ac felly mae safbwyntiau pobl leol yn allweddol i'r bartneriaeth.

"Mae gr诺p llywio'r prosiect - yn cynnwys Rewilding Britain - wedi gwrando ar y gofidiau gafodd eu codi gan bobl leol a'r undebau amaeth ac mae wedi penderfynu gwneud newidiadau i'r ffordd mae O'r Mynydd i'r M么r yn cael ei reoli.

"Ry'n ni nawr yn awyddus i symud ymlaen gyda'r gymuned er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol sy'n fuddiol i bawb."

'Ysbrydoli'

Dywedodd Prif Weithredwr Rewilding Britain, Rebecca Wrigley: "Ry'n ni'n falch iawn o fod wedi helpu rhoi O'r Mynydd i'r M么r ar ben ffordd.

"Mae'n brosiect sy'n ysbrydoli, sydd yn ymwneud ag adfer natur, dod a buddion i gymunedau gwledig a chefnogi'r economi leol.

"I lwyddo, mae'n rhaid iddo gael ei arwain gan y gymuned wrth iddo ganfod ffyrdd o helpu pobl a natur i ffynnu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elwyn Vaughan yn gynghorydd sir ym Mhowys

Dywedodd Elwyn Vaughan - cynghorydd sir ym Mhowys sydd wedi bod yn feirniadol o rol Rewilding Britain: "Rwy'n croesawu'r bennod newydd yma yn y prosiect ac rwy'n gobeithio bod hyn yn nodi dechreuad partneriaeth lwyddiannus rhwng pobl y canolbarth ac O'r Mynydd i'r M么r."

Bellach mae gan O'r Mynydd i'r M么r saith o bartneriaid - Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, yr RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, PLAS Ardal o Gadwraeth Forol Arbennig, Cadwraeth Dolffiniaid a Morfilod a'r WWF.

Bydd sesiynau galw mewn cymunedol yn cael eu cynnal o ganol mis Tachwedd ymlaen. Bydd y rhain yn helpu'r prosiect i benderfynu sut bydd y cyllid yn cael ei wario.