大象传媒

Owen Lane yn cymryd lle Josh Navidi yng Ngwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Owen LaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Lane sgorio cais ar ei unig ymddangosiad dros Gymru fis Awst

Asgellwr y Gleision, Owen Lane sydd wedi cael ei ddewis i gymryd lle Josh Navidi yng ngharfan Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi fore Llun na fyddai'r chwaraewr rheng-么l ar gael ar gyfer gweddill y gystadleuaeth wedi iddo anafu llinyn y gar yn y fuddugoliaeth 20-19 yn erbyn Ffrainc.

Roedd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud eisoes mai olwr, yn hytrach na blaenwr, fyddai'n cael ei alw i ymuno 芒'r garfan yn ei le.

Roedd Lane, sydd hefyd wedi chwarae fel canolwr, yn rhan o'r garfan hyfforddi ar gyfer Cwpan y Byd, ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y garfan derfynol.

Dim ond unwaith mae Lane wedi chwarae dros Gymru, a hynny yn y g锚m yn erbyn Iwerddon fis Awst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Navidi ei anafu yn ystod hanner cyntaf y g锚m yn erbyn Ffrainc

Bydd g锚m nesaf Cymru yn erbyn De Affrica yn y rownd gynderfynol yn Stadiwm Nissan, Yokohama, am 09:00 ddydd Sul.

Roedd Cymru eisiau cryfhau eu dewisiadau ymhlith yr olwyr, yn enwedig gan i'r canolwr Jonathan Davies fethu g锚m ddydd Sul oherwydd anaf i'w ben-glin.

Navidi, 28 oed, yw'r ail aelod o garfan Cymru i ddychwelyd adre, gyda'r clo Cory Hill wedi gadael heb chwarae g锚m oherwydd anaf i'w goes.

Daeth Bradley Davies o'r Gweilch i gymryd lle Hill, tra bod Adam Beard, clo arall y Gweilch, wedi cyrraedd yn hwyr oherwydd llawdriniaeth i dynnu ei bendics.

Mae gan Gymru gryfder yn y rheng 么l, gan gynnwys Ross Moriarty, ddaeth i'r cae yn lle Navidi ddydd Sul.