大象传媒

'Bylchau mawr' mewn dysgu sgiliau bywyd mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Gwers ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Senedd ieuenctid bod gorbwyslais mewn ysgolion ar arholiadau

Dylai dysgu sut i drefnu morgais, delio 芒 galar neu roi araith gael mwy o flaenoriaeth mewn ysgolion yn 么l adroddiad gan Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn ei adolygiad mawr cyntaf daeth yr ymchwil i'r casgliad bod "bylchau mawr" yn y sgiliau bywyd sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion, yn ogystal 芒 gorbwyslais ar arholiadau.

Yn sgil y canfyddiadau mae'r adroddiad yn galw am gyflwyno addasiadau i gwricwlwm newydd Cymru.

Bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn mynd i'r afael 芒'r argymhellion pan fydd y Senedd Ieuenctid yn cyfarfod ddydd Gwener.

Datblygu 'robotiaid A*'

Mae'r adroddiad yn codi pryderon am system addysg sy'n datblygu "robotiaid A*" ond heb "fawr o wybodaeth o'r byd go iawn".

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n gadael yr ysgol gyda llond llaw o sgiliau ond dim gwybodaeth ar sut i siarad yn gyhoeddus, glanhau, cynnal perthnasoedd iach, prynu ceir, gwneud cais am forgeisi, diogelwch ar y ffyrdd, a llawer o sgiliau eraill sydd eu hangen i lwyddo mewn bywyd," mae'n nodi.

Ffynhonnell y llun, Senedd Ieuenctid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma adolygiad mawr cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru

Cafodd arolwg ei gynnal ar dros 2,500 o bobl ifanc, athrawon a rhieni fel rhan o'r ymchwil.

Er bod mwyafrif y bobl ifanc wedi cael addysg am ddiogelwch ar y we (85%) ac ymdrin 芒 bwlio hyd at 18 oed (84%), roedd llawer llai wedi dysgu am ddelio 芒 galar (12%), iaith arwyddo (11%) ac addysg wleidyddol (10%).

Yn 么l y rhai gafodd eu holi pa sgiliau bywyd oedd angen eu dysgu, dewisodd bron i dri chwarter y bobl ifanc sgiliau achub bywyd (74%) ac ymdopi 芒 straen (73%).

Bagloriaeth 'ddim yn cyflawni'i nod'

Daeth yr adroddiad i'r casgliad ei fod yn amlwg nad oedd disgyblion yn dysgu'r pynciau roedden nhw'n eu gwerthfawrogi, gan bwysleisio y dylai gwleidyddion ac ysgolion "wrando mwy ar bobl ifanc wrth wneud penderfyniadau ar eu haddysg".

Dywedodd yr adroddiad hefyd bod sgiliau bywyd yn cael eu "cywasgu" i ddiwrnodau Addysg Bersonol a Chymdeithasol - dyddiau sy'n cael eu hystyried fel "diwrnod i ffwrdd' gan ddisgyblion.

Awgrymodd canlyniadau'r arolwg hefyd nad oedd athrawon yn teimlo'n gyffyrddus wrth gyflwyno'r gwersi ac roedd rhai yn poeni nad oedden nhw'n berthnasol ac yn cael pethau'n anghywir.

Mae'r ymchwil hefyd yn dweud nad oedd Bagloriaeth Cymru yn "cyflawni ei nod yn llwyddiannus", ac felly y dylid cyflwyno cymhwyster neu dystysgrif sgiliau bywyd newydd ar gyfer pobl ifanc 16 oed.

Roedd argymhellion eraill yn cynnwys cyflwyno gwers benodol sgiliau bywyd mewn ysgolion bob pythefnos, a Chomisiynydd Sgiliau Bywyd cenedlaethol i oruchwylio dysgu'r pwnc ledled Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Senedd Ieuenctid Cymru yn eu cyfarfod cyntaf

Yn ymateb i adroddiad y Senedd Ieuenctid dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland: "Mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol i Gymru: pobl ifanc yn dylanwadu ar y llywodraeth yn uniongyrchol ar y materion sy'n bwysig iddyn nhw.

"Mae cynnwys yr adroddiad yn debyg iawn i'r hyn rydw i wedi clywed gan blant a phobl ifanc dros y blynyddoedd diwethaf.

"Dwi'n edrych ymlaen at drafod yr adroddiad gydag aelodau'r Senedd Ieuenctid ar ddydd Gwener, ac i drafod sut gallwn ni gweithio gyda'n gilydd i sicrhau fod y llywodraeth yn gwrando, ac yn bwysicach - yn ymateb yn bositif i argymhellion yr adroddiad.

"Mae hwn yn ddechreuad pwerus gan y Senedd Ieuenctid; un sy'n dangos bod pobl ifanc yn ddinasyddion gweithredol gyda r么l bwysig i'w chwarae ar ganol ein cymdeithas ddemocrataidd."

Llywodraeth yn 'cytuno'n llwyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn diolch i'r Senedd Ieuenctid am ei hadroddiad.

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn cytuno'n llwyr gyda chanfyddiadau'r adroddiad am bwysigrwydd sgiliau bywyd.

"Dyna pam y mae gan y cwricwlwm newydd bedwar pwrpas allweddol sy'n cynnwys datblygu dysgwyr galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau, ac yn dod yn ddinasyddion deallus a moesegol o Gymru a'r byd.

"Mae'r Gweinidog Addysg yn edrych ymlaen at gwrdd 芒'r aelodau yn ddiweddarach yr wythnos hon."