大象传媒

Robin McBryde am aros yn Japan er marwolaeth ei fam

  • Cyhoeddwyd
Robin McBrydeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth McBryde ennill 37 cap i Gymru fel chwaraewr

Mae hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde wedi cyhoeddi y bydd yn aros gyda'r garfan yn Japan wedi marwolaeth ei fam.

Dywedodd cyn-fachwr Cymru bod "neb yn fy nghefnogi mwy" na'i fam, Diana.

Ychwanegodd McBryde ei fod yn "gwybod fy mod i yn union le byddai hi eisiau i mi fod".

Bydd Cymru'n herio De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd ddydd Sul, a bydd gan y garfan un g锚m arall wedi hynny - unai'r ffeinal neu'r g锚m am y trydydd safle.

Fe fydd McBryde yn gadael t卯m hyfforddi Cymru wedi Cwpan y Byd, gan ymuno 芒 Leinster fel is-hyfforddwr.

'Cefnogaeth wych'

Dywedodd McBryde: "Rwyf wedi derbyn cefnogaeth wych o'r t卯m a'r rheolwyr draw fan hyn, a gyda chefnogaeth fy nheulu n么l adre mae'n caniat谩u imi aros yn Japan.

"Doedd neb yn fy nghefnogi mwy na fy mam, ac fel gydag unrhyw riant, byddai hi eisiau'r gorau i mi, felly dwi'n gwybod fy mod i yn union le byddai hi eisiau i mi fod."

Diolchodd hefyd i Ward Cybi yn Ysbyty Gwynedd "am y gofal a'r sylw arbennig gafodd fy mam".

Ychwanegodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Hoffai carfan Cymru, y rheolwyr ac Undeb Rygbi Cymru i gyd estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Robin a'i deulu yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei fam, Diana.

"Mae Robin yn ddyn teulu balch ac rydyn ni fel carfan yma i'w gefnogi ef a'i deulu mewn unrhyw ffordd bosib yn ystod yr amser hwn."