大象传媒

Matt Johnson ac iselder: "Cadwes i e tu mewn"

  • Cyhoeddwyd

Bydd nifer ohonom yn ddioddef gyda'n iechyd meddwl rhywbryd yn ein bywydau.

Mae'r cyflwynydd, Matt Johnson, wedi bod ag iselder ers blynyddoedd, ac mae'n siarad yn agored am ei drafferthion 芒'i iechyd meddwl.

Ond nid yw hyn wastad wedi bod yn wir.

Ffynhonnell y llun, S4C

Ddeng mlynedd yn 么l, yn Rhagfyr 2009, roedd Matt Johnson ar falconi yn Sbaen, yn ystyried lladd ei hun.

"Erbyn y pwynt yna o'n i'n yfed bron i ddwy botel o wisgi y dydd, felly mae'n niwlog iawn, ond dwi hefyd yn ei gofio'n fyw iawn ar yr un pryd.

"Ers rhyw ddwy flynedd, oedd e'n teimlo fel fod hood am fy mhen oedd yn llaith, trwm a thywyll. Do'n i ddim yn teimlo'n fyw nac yn gyffrous mewn unrhyw ffordd.

"Felly ar y foment yna ar y balconi, ges i rush o adrenalin gyda'r teimlad o 'dyma ni, rwyt ti am orffen y boen yma ti am ei chael am byth'. Roedd yn deimlad do'n i ddim wedi ei deimlo ers amser hir.

"'Nath e 'neud i mi beidio teimlo'n niwlog, a 'nath e'r graig enfawr yn fy mhen deimlo ychydig yn ysgafnach. A 'nes i ddechrau meddwl am fy nheulu, opsiynau eraill, y pethau dwi'n eu mwynhau - a daeth yr emosiwn 'ma drosta i."

Yn ffodus, penderfynodd Matt ei fod am barhau i fyw.

Siaradodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ei broblemau 芒'i iechyd meddwl yn 2013, a hynny mewn cyfweliad gonest a dirdynnol ar raglen This Morning, yr oedd yn cyflwyno arno ar y pryd.

Ers hynny, mae wedi parhau 芒'i ymgais i fod yn agored am ei salwch, ac i annog eraill i drafod eu sefyllfaoedd nhw hefyd.

"Roedd yna gymaint o ffactorau gwahanol a effeithiodd ar fy iechyd meddwl bryd hynny. Un peth mawr oedd y stigma sydd yn gysylltiedig 'da ddim teimlo'n gr锚t. Do'n i ddim yn gadael i mi fy hun siarad 'da rhywun am sut o'n i'n teimlo.

"Cadwes i e tu mewn, oedd mor niweidiol, a berwodd hynny i'r wyneb.

"Nawr, dwi'n teimlo fel fod gen i ddim i'w guddio, a bod pobl yn fy neall i fwy.

"Dwi'n credu y bydd y ffaith mod i'n fwy onest yn helpu pobl fel fy nai ifanc a fy chwaer fach i fod yn fwy agored, a dyna dwi wir yn hapus amdano fe. Dwi'n gwybod os fyddai gen i broblem eto, y galla i fynd at fy nheulu, a dwi'n gobeithio allan nhw ddod ata i.

"Y dyddiau yma, rydyn ni'n teimlo bob amser mewn cysylltiad 芒'r byd, gyda'r holl gyfryngau cymdeithasol. Ond dy'n ni ddim wir wedi cysylltu'n emosiynol 芒'n hunain na'r bobl agosaf aton ni.

"Does gen i ddim amser am siarad gwag ddim mwy. Mae bywyd rhy fyr. Dyw hi ddim mod i eisiau siarad 'da ti o hyd am fy mhroblemau, ond dwi jest eisiau bod yn onest a gwneud cysylltiadau 芒 phobl. Dwi eisiau i bobl fod yn onest yngl欧n a beth a phwy ydyn nhw."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Matt a'i dad sgwrs agored ar gamera ar Fynydd Caerffili

Yn 2017, cymerodd ran mewn rhaglen ddogfen ar gyfer S4C, Matt Johnson: Iselder a Fi.

Ar y rhaglen, cafodd Matt sgwrs agored gyda'i dad, Gary, ar Fynydd Caerffili am y trafferthion mae'r ddau ohonyn nhw wedi eu cael ag iselder - sgwrs mae Matt yn cyfeirio ato fel un a oedd yn drobwynt yn eu perthynas.

"Roedd fy nhad wedi bod yn diodde' ers blynyddoedd, ac fe wellodd ein perthynas achos 'nes i ddod i ddeall mwy am ei ymddygiad pan o'n i'n iau. Pan ti'n sylweddoli bod dy rieni yn bobl, mae hwnna'n drobwynt mawr.

"'Nathon ni gysylltu ar y rhaglen ddogfen, ac oedden ni'n vulnerable gyda'n gilydd, o flaen dynion, ar Fynydd Caerffili!

"A dwi wrth fy modd gydag eiliadau fel yna. Os wyt ti'n hollol bresennol yn y foment, ti'n sylweddoli pa mor bwysig yw e. Ar y mynydd yna, roedd e'n foment i'r ddau ohonon ni.

"Mae dad yn warrior. Mae e nawr yn hyfforddi i fod yn athro yoga, fel gall e fynd 芒 yoga at ddynion y Cymoedd, er mwyn iddyn nhw ail-gysylltu 芒'i gilydd. Maen nhw i gyd yn ddynion tebyg, fel fe, yn gyn-blismyn, cyn-filwyr...

"Mae e eisiau helpu pobl, ac mae e wedi dod o hyd i'w bwrpas yn 62 oed!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar ei raglen ddogfen, siaradodd Matt 芒'i gyfaill, y canwr Tom Fletcher, sydd hefyd yn agored iawn am ei drafferthion 芒'i iechyd meddwl

Yn 么l Matt, proses sydd yn parhau i esblygu ydi ceisio sicrhau iechyd meddwl da, ac nid oes un datrysiad sydd am wella eich holl broblemau.

Mae wedi sylweddoli fod yna nifer o elfennau wedi arwain at ei broblemau iechyd meddwl, ac o ganlyniad, fod angen casgliad o bethau i'w helpu i fyw bywyd 芒 meddwl iach.

"Mae hi'n anodd iawn i mi roi fy hun yn 么l yn y sefyllfa yna ro'n i ddeng mlynedd yn 么l.

"O'n i'n teimlo'n eilradd. Doedd gen i ddim teimlad o berthyn achos o'n i wedi cymryd fy hun oddi wrth fy ffrindiau.

"Doedd gen i ddim swydd i fynd iddi bob dydd. O'n i ddim yn teimlo mod i'n haeddu dim mwy, ac roedd e fel caseg eira aeth mas o reolaeth. O'n i'n trio dal popeth at ei gilydd yn fy mywyd - o'n i'n faking it.

"O'n i'n ei ffeindio fe'n anodd i godi o'r gwely, ac o'n i wastad wedi blino. Ro'dd gen i atal dweud pan o'n i'n nerfus. Oedd e'n effeithio arna i'n gorfforol hefyd a 'nath fy eczema waethygu.

"Ond dwi'n meddwl nawr am yr holl bethau o'n i ddim yn ei wneud drosta fi fy hun bryd hynny - do'n i ddim yn garedig gyda fi fy hun. Dim rhyfedd mod i'n isel ofnadwy.

Ffynhonnell y llun, S4C

"Felly nawr, dwi'n fwy ymwybodol o fy hun a beth ydw i angen ei wneud drosof fi fy hun.

"Fy hoff beth i'w wneud yw 'check-in'. Dwi'n gwneud hynny gyda fy hun bob dydd, mwy nag unwaith y dydd. A'r cwbl yw hynny yw gofyn i mi fy hun 'sut ydw i'n teimlo?'.

"Roedd hynny'n eitha' anodd i mi ei wneud, tan ychydig o fisoedd yn 么l, mewn gwirionedd - gofyn 'Sut ydw i wir yn teimlo ar hyn o bryd?'

"Dwi'n ei wneud cyn cyfarfodydd, pryd o fwyd gyda ffrindiau, cyn workout... Pan dwi'n rhannu fy nheimladau, unai gyda mi fy hun neu rywun arall, mae e'n rhyddhad.

"Pan mae'n deimlad da, dwi'n ei gofleidio fe. Pan mae'n ddrwg, dwi'n cofio ei fod am basio."

Ffynhonnell y llun, Matt Johnson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Matt Johnson wrth ei fodd ar 么l cwblhau marathon Llundain

A hithau'n ddeg mlynedd ers y noson dyngedfennol honno yn Sbaen - deg mlynedd lle mae wedi gweithio'n galed i wella ei iechyd meddwl - mae Matt wedi penderfynu ei nodi drwy herio ei hun unwaith eto.

"Un o'r pethau cynta' 'nes i ar 么l y noson yna yn Sbaen oedd cofrestru i wneud marathon Llundain. O'n i eisie cael nod, ac i deimlo'n browd o'n hun. 'Nes i gymryd rheolaeth, ac o'dd e'n teimlo'n dda.

"Eleni, ddeg mlynedd wedyn, dwi'n rhedeg marathon Efrog Newydd. 'Nes i roi pwysau ar fy hun i wneud rhywbeth i nodi'r garreg filltir. Dwi'n cas谩u rhedeg, ond mae'n beth mawr i herio dy hun.

"Ac i mi, mae'n deimlad gwych achos ti sydd mas 'na, ti'n gwneud rhywbeth ar dy ben dy hun.

"Dwi'n nerfus ond dwi wir methu aros!"

Hefyd o ddiddordeb: