Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cinio ysgol am ddim: 'Angen dyblu'r trothwy incwm'
Fe ddylai'r trothwy incwm i fod yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim gael ei ddyblu'r flwyddyn nesaf os all Llywodraeth Cymru fforddio i wneud hynny, yn 么l ACau.
Mae plant i rieni sy'n derbyn taliadau credyd cynhwysol ac sy'n ennill llai na 拢7,400 y flwyddyn yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim.
Ond, mae adroddiad un o bwyllgorau'r Cynulliad yn dweud y dylai'r llywodraeth ystyried cynyddu'r trothwy i 拢14,000 ar ddechrau'r flwyddyn academaidd yn 2020.
Mae hefyd yn dweud y dylai pobl dderbyn eu taliadau cynhwysol yn amlach, neu'n syth i'w landlordiaid os mai dyna'u dymuniad.
'System drugarog'
Dyna sydd wedi digwydd yn Yr Alban, ble mae rhannau o'r gwasanaethau lles wedi'u datganoli.
Mae bron hanner poblogaeth Cymru yn derbyn rhyw fath o fudd-dal o dan drefn sy'n cael ei rheoli'r rhan fwyaf o San Steffan.
Ar 么l gwrthod galwadau i ddatganoli pwerau yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi comisiynu astudiaeth i'r pwnc.
Hefyd, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb wedi cynnal ymchwiliad eu hunain.
Yn 么l y pwyllgor, byddai datganoli yn creu system les "drugarog", ond ni fyddai'n digwydd yn awtomatig.
Ond, fe ddylai rhai agweddau o'r drefn gael eu rheoli o Gaerdydd medd ACau, gan gynnwys asesiadau ar bobl sy'n hawlio budd-daliadau salwch ac anabledd.
Fe ddylai taliadau ychwanegol hefyd fod ar gael.
Fe gafodd y trothwy cinio ysgol am ddim o 拢7,400 ei gyflwyno ym mis Ebrill, ond fe ddylai gael ei godi fel mater o "egwyddor" medd ACau.
Mae gan Yr Alban a Lloegr drothwy tebyg i Gymru hefyd, ond yn 么l elusen banciau bwyd y Trussell Trust fe ddylai Cymru wneud yr un fath 芒 Gogledd Iwerddon ble mae'r trothwy'n 拢14,000.
Oherwydd yr "effaith ariannol" allai hyn ei gael ar y pwrs cyhoeddus, mae ACau yn awyddus i astudiaeth dichonolrwydd gael ei chwblhau erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf i weld "a yw'r codiad yn bosib yn ariannol".
'Urddas a thegwch'
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, John Griffiths: "Nid yw'r drefn bresennol yn gweithio i nifer o bobl.
"Rydym yn clywed yn aml nad yw'r drefn fudd-daliadau yn gweithio i allu talu am bethau sylfaenol ar gyfer y cartref, a dyw'r drefn ddim yn trin pobl gydag urddas, tegwch nac unrhyw drugaredd.
"Mae cost y methiannau yma i bobl yn annerbyniol yn un o wledydd mwyaf blaenllaw y byd.
"Wrth argymell i Lywodraeth Cymru edrych ar bob posibilrwydd i ddatganoli rheoli budd daliadau i Gymru, mae ein hargymhellion yn pwysleisio beth allai gael ei wneud nawr, o fewn y setliad presennol, ac yn y tymor hir," meddai.