Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Agor llwybr seryddol y canolbarth i geisio denu ymwelwyr
Mae llwybr seryddol newydd wedi cael ei agor ym Mynyddoedd Cambrian ar 么l i chwech o leoliadau gael eu gwobrwyo gyda statws Darganfod yr Wybren Dywyll.
Y gobaith yw y bydd y llwybr - sy'n ymestyn am bellter gyrru o 50 milltir - yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal sy'n cael ei hystyried gyda'r gorau yn y DU ar gyfer gwylio'r s锚r.
Y chwe lleoliad yw Coed Y Bont ym Mhontrhydfendigaid a'r Bwa ger Pontarfynach, y ddau yng Ngheredigion; maes parcio Llyn Brianne yn Rhandirmwyn a Mynydd Llanllwni yn Sir G芒r; ac ym Mhowys, Pont ar Elan yng Nghwm Elan a thafarn y Star Inn yn Nylife.
Mae'r awyr yn y lleoliadau hyn gyda'r tywyllaf yn Ewrop, ac yn wahanol i brofiad mwyafrif y bobl sy'n byw ym Mhrydain lle mae llygredd goleuni difrifol.
Mae llai na 10% o'r boblogaeth yn gallu edrych allan trwy eu ffenestri gartref ar wybren wirioneddol dywyll.
Mae prosiect Dyfodol Cambrian - sy'n anelu at gynyddu proffil Mynyddoedd Cambrian - yn gobeithio y bydd y safleoedd yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal.
Mae'r prosiect wedi cyhoeddi canllaw newydd ar gyfer ymwelwyr sy'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer gwylio'r s锚r a llefydd i aros ger y safleoedd wybren dywyll.
Dywedodd Dafydd Wyn Morgan, rheolwr y prosiect: "Mae Mynyddoedd Cambrian Cymru yn un o'r llefydd gorau yn y byd i wylio'r wybren dywyll.
"Mae'n gyrchfan sydd werth ymweld 芒 hi er mwyn darganfod golygfeydd anhygoel o'r tirwedd gyda'r dydd a'r nos.
"Pan mae'r awyr yn glir gallwch weld y Llwybr Llaethog, s锚r gwib a'r Orsaf Ofodol Ryngwladol."
Mae Claire Goodman-Jones yn dywysydd teithiau cerdded sy'n cynllunio teithiau yn ystod y nos yn yr ardaloedd wybren dywyll: "Mae Mynyddoedd Cambria mor arbennig - ac yn y nos does yna ddim llygredd awyr, nac unrhyw fath o lygredd mewn gwirionedd.
"Mae'r awyr mor glir - dwi'n mynd 芒 phobl allan i gerdded yn ystod y dydd yn barod a nawr rwy'n gobeithio arwain teithiau yn y nos er mwyn i bobl weld pethau nad ydyn nhw wedi gweld o'r blaen."