Undeb Ewropeaidd yn cytuno i ohirio Brexit tan 31 Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i ohirio dyddiad ymadael y Deyrnas Unedig tan 31 Ionawr 2020, yn 么l neges ar gyfrif Twitter Llywydd Cyngor Ewrop.
Ysgrifennodd Donald Tusk y byddai gwledydd yr UE yn caniat谩u dyddiad ymadael hyblyg sy'n golygu y gallai'r DU adael yr undeb cyn y dyddiad hwnnw petai'n llwyddo i gael s锚l bendith Aelodau Seneddol i gytundeb Brexit.
Daw'r cyhoeddiad wrth i ASau baratoi i bleidleisio ar gynnig gan Boris Johnson i gynnal etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.
Roedd y DU i fod i adael yr UE ar 31 Hydref, ond doedd dim dewis yn gyfreithiol gan Mr Johnson ond gofyn am estyniad wedi i'r Senedd fethu 芒 dod i gytundeb.
Mae'r SNP a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cynnig cynnal etholiad cyffredinol ar 9 Rhagfyr.
Mae'r 大象传媒 wedi gweld fersiwn drafft o'r cytundeb ar gyfer llysgenhadon 27 gwlad yr UE sydd hefyd yn cynnwys ymroddiad na ellir ail-drafod telerau'r Cytundeb Ymadael yn y dyfodol.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar ei gyfrif Twitter ei fod yn "croesawu'r penderfyniad yma", gan ddweud bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi "gwastraffu amser a ffwdan dros y tair blynedd diwethaf".
Yn 么l arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts mae angen i'r gwrthbleidiau ddefnyddio'r amser ychwanegol i sicrhau Pleidlais y Bobl - neu "ffurfio llywodraeth dros dro" os oes rhaid.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i'r rheiny ohonom sy'n gwrthwynebu achosi niwed Brexit ym mhedwar gwlad y DU uno unwaith yn rhagor i sicrhau'r ffordd fwyaf synhwyrol o ddod 芒'r llanast yma i ben - refferendwm gair olaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019