Ateb y Galw: Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒
- Cyhoeddwyd
Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y 大象传媒 sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma. Mae Vaughan yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i ni ar S4C a 大象传媒 Radio Cymru ers blynyddoedd, yn trin a thrafod materion gwleidyddol y dydd.
Ef yw un o gyflwynwyr rhaglen newydd 大象传媒 Radio Cymru, Dros Ginio.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Neidio o ffenest y lloft i mewn i domen eira yn ystod eira mawr 1963.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Gormod o bobl, mwy na thebyg! Rwy'n cofio bod 芒 crushes enfawr ar Davey Jones o'r Monkees a'r p锚l-droediwr Charlie George.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rwy'n gwbl ddigwilydd, gen i ofn!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Wrth ddarllen am farwolaeth y chwaer fach yn Llyfr Glas Nebo.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cant a mil ohonyn nhw! Siarad gormod yw'r gwaethaf, am wn i.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Top y Wenallt yn edrych mas dros Gaerdydd, er mwyn gweld y cyfan o ddinas fy mebyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gwylio'r s锚r o anialdir Awstralia i weld y Llwybr Llaethog yn ei ogoniant heb oleuni trefol.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gwybodus, amyneddgar, swil.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Llyfr- Hanes Cymru gan John Davies.
Film - Cabaret.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Pantycelyn, oherwydd ein bod yn perthyn ac am ei fod mor aml-dalentog.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn saith oed ces i reid y tu mewn i un o Daleks Doctor Who, ac yn 59 oed fe wnes i gyfrannu i'r un gyfres fel darllenydd newyddion.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bwyta ac yfed gyda chyfeillion a theulu.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
O Fryniau Caersalem. Rhaid oedd cael emyn hen deip a ph'un sydd well?
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Roti Canai a Dhal, Rendang cig eidion a Pavlova mafon.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Dewi Llwyd, er mwyn gallu stricio lawr Stryd Fawr, Bangor.