大象传媒

Pleidiau Aros yn dod i gytundeb etholiadol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Jo Swinson, Adam Price a Sian BerryFfynhonnell y llun, Getty Images/PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r arweinwyr - Jo Swinson, Adam Price a Sian Berry - wedi cytuno ar gytundeb etholiadol mewn 11 o'r 40 sedd yng Nghymru

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion wedi cytuno ar gytundeb etholiadol mewn 11 o'r 40 sedd yng Nghymru.

Mae'r cytundeb yn golygu mai ond un o'r pleidiau fydd yn sefyll ymgeiswyr yn yr 11 sedd honno i gynyddu'r siawns y bydd Aelod Seneddol sy'n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ethol.

Daeth y tair plaid i ddealltwriaeth ar gyfer isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed er mwyn osgoi rhannu pleidleisiau'r etholwyr sy'n gwrthwynebu Brexit.

Cafodd y cyhoeddiad swyddogol ei wneud yn Llundain fore Iau.

Dywedodd Llafur Cymru fod Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn helpu ei gilydd am eu bod "ofn colli seddi".

Mae dau aelod blaenllaw o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi ymddiswyddo o'r blaid mewn protest am y cytundeb.

Camu i'r ochr

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn camu i'r ochr ar gyfer ymgeiswyr Plaid Cymru mewn tair o'r pedair sedd y mae Plaid yn eu hamddiffyn yn yr etholiad ym mis Rhagfyr - Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Dwyfor Meirionydd.

Mae Plaid Cymru yn amddiffyn mwyafrif bychan o 92 pleidlais yn sedd Arfon.

Ymgeisydd Plaid Cymru fydd hefyd yn ceisio ennill seddi Caerffili, Llanelli, Pontypridd ac Ynys M么n.

Nid yw'r cytundeb yn cynnwys sedd Ceredigion sydd yng ngafael Plaid Cymru ar hyn o bryd ond sy'n brif darged etholiadol i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn sefyll ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Canol Caerdydd a Sir Drefaldwyn.

Cafodd sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed ei hennill gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds yn isetholiad mis Awst.

Y Blaid Werdd fydd yr unig un o'r tair plaid fydd yn ymgeisio ym Mro Morgannwg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adam Price wedi galw ar y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd i gyd-weithio gyda'i gilydd mewn etholiad cyffredinol neu ail refferendwm

Ar 么l yr etholiadau ar gyfer Senedd yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mai, ysgrifennodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC, at sawl plaid o blaid 'Aros', gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd, gan alw arnynt i gyd-weithio gyda'i gilydd mewn etholiad cyffredinol neu ail refferendwm.

Deilliodd y trafodaethau a arweiniodd at y cytundeb etholiadol hwn o'r llythyr hwnnw.

Ddydd Sul, fe ddywedodd AC Plaid Cymru Helen Mary Jones nad ydy hi'n "hollol gyffyrddus" gyda'r syniad o gydweithio gyda phleidiau eraill sy'n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr ond yn dweud mai dyna'r "peth cywir i wneud".

Wrth siarad ddydd Mercher, honnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson y gallai ei phlaid ennill nifer sylweddol o seddi mewn "Cynghrair o blaid Aros" heb yr angen i gyrraedd cytundeb a Llafur.

'Clymblaid Gadael'

Wrth lansio ei ymgyrch etholiadol ym Mryste ddydd Mercher, dywedodd cyd-arweinydd y Blaid Werdd, Jonathan Bartley ei fod yn gobeithio y byddai'r cytundeb yn arwain at "gr诺p mawr yn San Steffan o blaid Aros" ond fe wnaeth e gyfaddef fod rhai canghennau lleol ei blaid yn gwrthwynebu'r syniad o beidio sefyll.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Boris Johnson wrthod y syniad o gydweithio 芒 Phlaid Brexit ar gyfer yr etholiad.

Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i alwad gan arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage i gefnu ar gytundeb diweddaraf y DU gyda'r UE, uno mewn "clymblaid Gadael" neu wynebu her gan ymgeisydd Plaid Brexit ym mhob etholaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mike Powell - sydd wedi ymddiswyddo mewn protest - ei fod wedi ymgyrchu ym Mhontypridd fel Dem Rhydd am 25 mlynedd

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi gwrthod y posibilrwydd o ddod i gytundeb gyda phleidiau eraill, ac mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC yn dweud nad yw'r syniad "yn reddfol, yn apelio."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae'r cytundeb yma'n ymddangos fel bod Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn helpu ei gilydd mewn seddi maen nhw ofn eu colli.

"Mae Plaid yn poeni am Arfon. Dyw'r Dem Rhydd ddim yn meddwl gwn芒nt nhw ddal Brycheiniog a Sir Faesyfed.

"Mae'r ddau yn brwydro dros Geredigion am nad yw wir yn gytundeb, dim ond dwy blaid sy'n gofalu am eu hunain.

"Os yw pobl eisiau'r gair olaf ar Brexit yna ddylen nhw bleidleisio Llafur Cymru, ac yn y bleidlais gyhoeddus yna fe wnawn ni ymgyrchu i Aros."

Ymddiswyddo mewn protest

Yn dilyn y cyhoeddiad am y cytundeb etholiadol, mae Mike Powell - oedd wedi bwriadu sefyll fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhontypridd - wedi ymddiswyddo o'r blaid mewn protest, yn ogystal 芒 rheolwr ymgyrchoedd y blaid yn Rhondda Cynon Taf, Karen Roberts.

Gan ddatgan ei fwriad i sefyll yn annibynnol, dywedodd Mr Powell: "Rwyf erioed wedi bod yn erbyn ffurfio cytundebau etholiadol ond mae 'na linellau coch ar adegau ac yn anffodus cafodd y llinell goch ei chroesi pan benderfynodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ein sefyll i lawr ym Mhontypridd.

"Rwyf wedi ymgyrchu ym Mhontypridd fel Dem Rhydd am 25 mlynedd.

"Yn anffodus rwyf wedi ymddiswyddo o'r blaid Gymreig heddiw achos fy mod yn credu bod amser ble mae'n rhaid rhoi cyfle i bobl bleidleisio dros y person neu'r blaid sy'n cyrraedd gofynion ac anghenion pobl orau."

Mae'r ymgeiswyr eraill ym Mhontypridd yn cynnwys Alex Davies-Jones i Lafur a Fflur Elin i Blaid Cymru, a bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Iau, 14 Tachwedd.