大象传媒

Galw am gymorth ariannol i deuluoedd canser y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Alison Rowlands
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai creu cronfa yn help mawr i deuluoedd yn 么l Alison Rowlands

Fe ddylai teuluoedd plant a phobl ifanc sy'n gorfod teithio i Loegr am driniaeth canser gael cymorth i dalu am gostau teithio, yn 么l Cynghrair Canser Cymru.

Mae 'na amcangyfrif fod teuluoedd yn y gogledd yn gwario 拢600 ar gyfartaledd yn teithio i ysbytai yn Lerpwl neu Fanceinion.

Er bod 'na uned arbenigol i bobl ifanc sydd 芒 chanser yng Nghaerdydd, does dim uned debyg yn y gogledd, sy'n golygu bod yn rhaid i deuluoedd deithio am driniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod modd i rai teuluoedd wneud cais am gymorth ar gyfer costau teithio os ydyn nhw'n cyrraedd meini prawf, fel hawlio budd-daliadau.

'Cannoedd o bunnoedd'

Fe ddywedodd cadeirydd Cynghrair Canser Cymru (CCC), Richard Pugh, wrth 大象传媒 Cymru: "Rhywun sydd yn y gogledd sy'n gorfod mynd i Lerpwl, mae'n costio cannoedd o bunnoedd y mis gyda phobl yn mynd n么l a blaen, jest am driniaeth.

"Os chi'n edrych ar 么l plentyn chi'n gorfod cael amser o'ch gwaith, aros dros nos. Mae'n effaith mwy ar yr holl deulu."

Er bod uned arbenigol i bobl ifanc gyda chanser yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd - dyma'r unig un yng Nghymru.

I deulu claf ifanc sy'n byw ar Ynys M么n ac sy'n gorfod teithio 200 milltir i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl am driniaeth, amcangyfrif elusen CLIC Sargent ydy bod costau teithio o 拢600 y mis ar gyfartaledd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elin a'i theulu yn wynebu taith 200 milltir i Lerpwl am driniaeth

Dywedodd Alison Rowlands - mam Elin, gafodd ddiagnosis o ganser - ei fod yn sioc enfawr i'r teulu.

"Rydym yn dod o Ynys M么n a ddim yn teithio llawer i feddwl ein bod wedyn yn gorfod mynd i Lerpwl," meddai.

"Ar y pryd, roedd yn boen mawr i ni ddreifio yno a doedd y car oedd gennym ni ar y pryd ddim y gorau i deithio'n bell, ond doedd gennym ni ddim y pres i brynu car gwell chwaith.

"Roedd yn costio i ni fynd i Lerpwl bedair gwaith yr wythnos, mi oedd rhywfaint o help gan unrhyw un yn unrhyw le yn help mawr i ni.

"Bysai cael cronfa yn help mawr i bobl, mi fase'n help iddyn nhw adjustio pethau ac yn help iddyn nhw deithio'n 么l ac ymlaen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Richard Pugh yn awyddus i weld cronfa ar gyfer teuluoedd cleifion canser

Mae CCC yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cronfa, i helpu teuluoedd gyda chostau teithio.

Yn 么l Mr Pugh: "Rydyn ni eisiau gweld cronfa ar gyfer teuluoedd. Dydy'r gost ddim yn enfawr, rhyw 拢250,000 y flwyddyn.

"Ond mae'r effaith ar y teulu - gyda'r arian yna - yn enfawr.

"Bydd pob plentyn yn gallu mynd i'r lle cywir am y cymorth cywir ac felly os oes modd helpu nhw, bydd hynny'n gr锚t."

Gofal arbenigol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall teuluoedd fod yn gymwys i hawlio cymorth ar gyfer costau teithio gan y GIG os bydd yn rhaid i'w plentyn fynd i'r ysbyty i gael triniaeth gan y GIG.

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal rhagorol ar gyfer plant a phobl ifanc ond rydym yn cydnabod weithiau bydd rhaid i deuluoedd deithio y tu allan i ardal eu bwrdd iechyd.

"Er ein bod yn gwerthfawrogi'r effaith y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd, mae hefyd yn bwysig sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu derbyn gofal arbenigol am yr hyn sy'n aml yn gyflyrau cymhleth gan wasanaeth cynaliadwy."