Ateb y Galw: Y cyflwynydd Aled Hughes
- Cyhoeddwyd
Aled Hughes, cyflwynydd 大象传媒 Radio Cymru sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma. Aled yw llais y bore ar yr orsaf, yn cyflwyno ei raglen o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yr wythnos yma, mae Aled yn dringo'r Wyddfa bob diwrnod ar 么l ei raglen er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwyn bisgid m诺-m诺 gan Claire yn y Cylch Meithrin gan ddechrau rhyfel arweiniodd at bob un o'r plant yn beichio cr茂o ryw ffordd neu'i gilydd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Kylie Minogue - poster mawr o Charlene ar wal llofft.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi ddim wir yn cywilyddio.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Gwylio'r ffilm Wonder efo'r plant - mi oeddan nhw'n cr茂o ac felly mi wnes i.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rhegi gormod.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Enlli - byd arall.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson ein priodas ar ynys St Lucia.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol. Sarcastig. Hapus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Un Nos Ola Leuad a The Usual Suspects.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Richard Burton - yr hellraiser Cymraeg gwreiddiol.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi oeddwn i bron iawn a boddi ym Mhorthdinllaen pan yn tua 14 oed cyn i ymwelydd fy llusgo i i'r lan.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Parti efo pawb sy'n bwysig - pwy fyddai ddim yn cael sesh ar y diwrnod hwnnw?!
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Pink Floyd - Wish You Were Here - tiwn.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
S诺p nionyn Ffrengig, sirloin wedi'i chosi ar y gril a hufen i芒 fanila efo crymbl mwyar duon.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Lois - fy merch 6 a 3/4 oed. Mae'r byd yn lle c诺l iawn trwy'r llygaid yna...
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Deri Tomos
Hefyd o ddiddordeb: