Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cleifion yn 'aros am oriau ar drol茂au' yn Ysbyty Maelor
Mae arolygwyr iechyd wedi dweud bod angen gweithredu i fynd i'r afael 芒 nifer y cleifion sy'n disgwyl am gyfnodau hir ar drol茂au yn uned frys Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bod ei swyddogion wedi darganfod fod rhai pobl wedi bod yn disgwyl wyth awr yn ystod ymweliad 芒'r ysbyty ym mis Awst.
Mae'r arolygiaeth eisiau i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wneud gwelliannau ar frys.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod rhai o awgrymiadau AGIC eisoes wedi'u rhoi ar waith.
'Cynyddu'r risg o niwed'
"Nodwyd nad oedd cleifion a oedd yn aros ar drol茂au yn y coridor yn cael gofal priodol nac amserol," meddai'r adroddiad.
"Bu'n rhaid i aelodau o'r t卯m arolygu ymyrryd ar dri achlysur gwahanol, gyda gofal y cleifion a oedd yn aros ar drol茂au yn y prif goridor yn yr Adran Achosion Brys.
"Yn ystod yr arolygiad, nodwyd gennym nad oedd unrhyw fatresi lleddfu pwysau ar gael i unrhyw gleifion, a oedd yn aros ar drol茂au yn yr adran.
"Yn ein barn ni, nid oedd yr arferion yn ddiogel ac roeddent yn cynyddu'r risg o niwed i'r cleifion.
"Golygai hyn ein bod wedi ysgrifennu i'r bwrdd iechyd ar unwaith yn dilyn yr arolygiad yn ei gwneud yn ofynnol bod camau unioni brys yn cael eu cymryd."
'Annerbyniol'
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi sefydlu uned ers hynny i leddfu'r pwysau ar yr uned frys.
"Mae'r problemau diogelwch cleifion a godwyd yn annerbyniol, ac rydyn ni eisoes wedi gwneud nifer o newidiadau i wella safon a diogelwch y gofal sy'n cael ei ddarparu," meddai llefarydd.
Mae'r ysbyty hefyd wedi dechrau gwneud cyhoeddiadau pob awr yn datgan yr amseroedd aros yn yr uned.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn annod pobl sydd ddim 芒 phroblemau brys i ddefnyddio gwasanaethau eraill yn hytrach na'r uned achosion brys.