Plwmsan, Hollywood a'r slepjan berffaith
- Cyhoeddwyd
Syr Wynff a Plwmsan - dau wyneb cyfarwydd i blant Cymru yn yr 80au wrth i ni diwnio mewn bob wythnos i weld pa helynt oedden nhw'n ei achosi yn Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan.
A nawr, mae cyfle i chi ail-fyw eich plentyndod drwy wylio penodau o'r gyfres gwlt
Mici Plwm, oedd yn actio Plwmsan, y 'twmffat twpach na thwp', sydd wedi bod yn rhannu rhai o gyfrinachau'r gyfres ar bodlediad S4C .
Sut dechreuodd pethau...
"O'n i'n 'nabod Wynff (Wynfford Ellis Owen), ond erioed 'di gweithio efo fo. O'dd Theatr Gwynedd yn g'neud eu pantomeim blynyddol, ac o'dd o yn y cyfnod o'dd Wynff yn actio Ff锚ri Nyff, yn ei sgidiau cryfion a lipstic mawr. O'n i yn y pantomeim, a mi glicion ni.
"O'dd Wynff yn mynd o'r pantomeim yn 么l i'r 大象传媒 i 'neud Teliffant, yr adeg hynny. A chwara teg iddo (dwi byth 'di madda' iddo fo) dyma fo'n deud wrth y 大象传媒 'gwrandwch, dwi'm isho gneud dim mwy, oni bai mod i'n cael dod 芒 Mici Plwm efo fi!'
"Yr adeg honno o'dd cast o bedwar ohonon ni - Syr Wynff, Plwmsan, Olwen Rees a Myfanwy Talog.
"O'dd Myfanwy Talog yn canlyn yr actor Syr David Jason. O'dd o'n dod i wylio ni ar fore dydd Sadwrn pan oeddan ni yn stiwdio'r 大象传媒 yng Nghaerdydd.
"Beth aeth David Jason ymlaen i'w wneud wedyn? Only Fools and Horses. A dyna chi, ylwch - yr un bach a'r un tal - yr union r'un peth 'de?!
"O'dd Teliffant yn beth 大象传媒, ac mi ddaethon nhw 芒'r peth i ben. O'dd Wynff a fi yn meddwl bechod fod Syr Wynff a Plwmsan, y ddau gymeriad [yn diflannu]. Mi ddo'th S4C, yn eu doethineb, ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan oedd o wedyn."
Paratoi'n ofalus?
"O'dd 'na nifer o bobl yn rhyfeddu, yn gofyn 'sut 'dach chi'n gneud y ddeialog i fyny fel 'da chi'n mynd?'"
"A'th Wynff reit stowt, a dweud ''da ni'n cymryd wythnosa i sgwennu un sgript'. Y dull roeddan ni'n 'neud o'dd meddwl am y stori a wedyn fi yn sgwennu i mi, a fo'n sgwennu iddo fo.
Gweithio efo anifeiliaid
"Un tro o'dd y person o'dd yn edrych ar 么l y props fod i ddod 芒 tsimpans卯, a'i wisgo fo yn nillad Plwmsan, a fo o'dd fy mrawd bach i.
"Ond do'dd y boi ddim yn dallt ei natur, a ddaeth o 芒 spidermonkey...
"O'dd o'n hongian ar y drws ac yn cau dod i lawr. Munud o'dd y mwnci yna yn clywad Wynff yn mynd 'AAA', o'dd y mwnci yn mynd yn bananas!
"O'dd o'n neidio fyny, ac a'th o fyny i'r goleuadau. O'ddan ni'n taflu bananas a thrio'i gael o lawr... Peidiwch 芒 gweithio efo anifeiliaid a phlant, 'de!"
Enwogrwydd ledled y byd
"Pa actorion yng Nghymru sy' 'di gweithio yn Universal Studios, Los Angeles? Wynff a fi! O'dd o'n rhyw gyd-gynhyrchiad efo sianel deledu i blant yn yr Almaen.
"Hedfan drosodd i fan'no, ac aros mewn gwesty ar Hollywood Boulevard a bob bora, o'dd y Rolls Royce anferth gwyn 'ma'n tynnu fyny tu allan a'r dyn 'ma mewn siwt chauffer gwyn neis a chap pig yn gwitshad amdanon ni.
"Ac oddan ni'n dod mewn fatha Syr Wynff a Plwmsan, ac wrth gwrs yn godro'r peth 'de... 'Helo byd! Helo Hollywood!' Neb yn cymryd sylw - ma' pawb mor wirion yna!"
Sicrhau'r slepjan berffaith
"Y broblem fawr oedd sut i gael y slepjan yn iawn, achos yn y dechra', o'ddan ni'n defnyddio pl芒t papur, efo foam shafio. Ond ar 么l cael rhyw dri neu bedwar o'dd fy llygaid i'n llosgi i gyd.
"Wedyn dyma nhw'n d'eud 'w 'nawn ni ddefnyddio cwstard, 'neith hwnna weithio'n arbennig o dda. Ond be' o'dd yn digwydd, os fasa ni'n ffilmio o dan oleuadau stiwdio, o'dd y gwres yn g'neud i'r llefrith ynddo fo suro. O'dd 'na ogla i godi cyfog arnon ni.
"Cymysgu tatws powdr 芒'r mymryn lleia o liw bwyd melyn, ac o'dd hwnnw i'r dim."
A dyna chi yn gwybod un o gyfrinachau mawr teledu Cymru dros y degawdau diwethaf! Tra chwcs!
Hefyd o ddiddordeb: