'Gwenwyn' y Cynulliad yn cadw pobl allan o wleidyddiaeth
- Cyhoeddwyd
Fe all "gwenwyn" yn y Cynulliad droi pobl i ffwrdd o wleidyddiaeth, yn 么l cyn-Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Dros Ginio 大象传媒 Radio Cymru, mai'r awyrgylch yn y siambr ar 12 Tachwedd oedd y gwaethaf iddo'i brofi mewn 20 mlynedd.
Roedd trafodaethau bywiog yn y Senedd ar 么l i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans, ymddiswyddo wedi i Aelod Cynulliad recordio ei sgyrsiau cyfrinachol.
Nid oedd y Cynulliad am ymateb i sylwadau Mr Jones.
Mynnodd Mr Jones nad oedd "gwenwyn" yn air rhy gryf i ddisgrifio'r awyrgylch.
"Be welom ni dydd Mawrth... doedd dim trefn yn y siambr o gwbl, a hefyd roedd cyhuddiadau'n cael ei gwneud - rhai ohonynt, yn fy marn i, yn torri'r gyfraith," meddai.
"Roedd lot o bobl yn gwylio hefyd, gan gynnwys plant ysgol, a beth oedden nhw'n ei wneud o'r sefyllfa dwi ddim yn gwybod.
"Roedd sgrech, ac roedd pobl yn dweud pethe 'dy nhw ddim 'di cael yr hawl i ddweud achos bod e mas o drefn.
"Ry'n ni wedi cymryd cam yr wythnos yma a gobeithio bydd pethau yn distewi wythnos nesaf."
'Ymosod ar gymeriadau pobl'
Ychwanegodd Mr Jones: "Fi 'di bod 'na ers 20 mlynedd ond 'dwi 'rioed wedi gweld be weles i ddydd Mawrth.
"Fi 'di gweld pethe tanllyd, pobl yn profi ei gilydd, mae'n rhan o ddemocratiaeth - mae hynny'n iawn.
"Ond be welsom ni dydd Mawrth oedd ymosodiadau oedd yn agos i fod yn anghyfreithlon, ymosodiadau heb unrhyw dystiolaeth o gwbl ac ymosodiadau ar gymeriadau pobl.
"Dyna'r gwahaniaeth dwi'n ei weld yn ein gwleidyddiaeth nawr.
"Pan ddechreuais i roedd modd anghytuno 'da rhywun a derbyn eu bod nhw'n gweld y byd mewn ffordd wahanol i chi, ond nawr ma' 'na dueddiad i ymosod ar gymeriadau pobl, a meddwl bod rhywbeth yn bod 'da nhw os oes ganddyn nhw farn sy'n wahanol i chi.
"Os yw hynny'n para bydd yna lot fawr o bobl sydd a'r gallu a'r ymroddiad i ddod mewn i fyd gwleidyddiaeth ddim yn gwneud hynny oherwydd yr ymosodiadau hyn."
Ar 12 Tachwedd fe wnaeth y Llywydd, Elin Jones ymateb i Bwynt o Drefn gan Mr Jones oedd yn trafod ymddygiad yr aelodau.
"I fyfyrio ar y prynhawn yma ac, yn wir, ran o ddoe, rwy'n ddig iawn ar adegau am sut mae'r aelodau yn ymddwyn yn y siambr hon neu'n ymgymryd 芒'u gwaith etholedig.
"Nid wyf yn ddig heddiw; mae llawer o'r hyn yr wyf i wedi'i weld ac wedi'i glywed yn y siambr hon a llawer o'r hyn sy'n digwydd y tu allan i'r siambr hon yn peri tristwch mawr imi.
"Mae disgwyl i bob un ohonom ni yma, y rhai sy'n bresennol a'r rhai nad ydyn nhw'n bresennol, wneud ein gwaith mewn modd da a threfnus, ac rwy'n siomedig bod rhai ohonom ni, rhai ohonoch chi, heddiw, wedi methu 芒 chyrraedd y safon honno y byddwn i'n disgwyl i Gymru ei haeddu gennym ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019