Yr hanes angof tu 么l i gronfa dd诺r Efyrnwy
- Cyhoeddwyd
Beth yw hanes cronfa dd诺r Efyrnwy yng nghanolbarth Cymru a gr毛wyd drwy foddi pentref gwledig, ddegawdau cyn i'r un peth ddigwydd yng Nghapel Celyn?
Mae cronfa llyn Llanwddyn yn y newyddion yr wythnos hon oherwydd bod y cwmni sy'n rhedeg y gronfa am ddargyfeirio d诺r yn 么l i ddwy afon gafodd eu hailgyfeirio yn wreiddiol yn 1810 er mwyn bwydo'r gronfa enfawr.
Maen nhw'n dweud mai'r nod yw gwella potensial ecolegol afonydd Cownwy a Marchnant ond mae rhai pobl leol yn poeni y bydd yn creu risg o lifogydd a bod yr afonydd eisoes yn gorlifo.
D诺r i Lerpwl
Cafodd y llyn ei greu oherwydd bod pobl Lerpwl angen cyflenwad cyson o dd诺r wrth i'r ddinas dyfu'n gyflym ddiwedd yr 19eg ganrif.
Gan bod 'na dd诺r gl芒n croyw i'w gael yn y canolbarth, ar 14 Gorffennaf 1881, gosododd Iarll Powys y garreg gyntaf yn yr argae fyddai'n boddi Cwm Efyrnwy.
Yr Iarll oedd perchennog y rhan fwyaf o'r tir fyddai'n cael ei foddi, gan gynnwys darnau helaeth o bentref Llanwddyn, lleoliad y gronfa dd诺r newydd fyddai'n llyncu 1200 erw o dir.
Pentref prysur
Ar y pryd, roedd gan bentref Llanwddyn eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel, tair tafarn, 37 o dai a 10 o ffermydd.
Maen anodd dod o hyd i gofnod o'r gwrthwynebiad i'r datblygiad ymhlith y bobl leol ar y pryd ond o'r cychwyn, datgelodd Corfforaeth Lerpwl gynlluniau i godi pentref newydd islaw'r cwm.
Erbyn i'r gronfa dd诺r gael ei llenwi yn 1892, roedd y rhan fwyaf o'r trigolion wedi symud i'r pentref newydd heb lawer o ffws, efallai yn edrych ymlaen at gael cartrefi newydd sbon.
Llanwddyn a Capel Celyn
bod llawer llai o ffws wedi ei wneud o foddi Llanwddyn na boddi pentref Capel Celyn bron i 80 mlynedd yn ddiweddarach oherwydd bod gwleidyddiaeth y ddau gyfnod mor wahanol.
Doedd y mudiad cenedlaethol ddim wedi ei sefydlu a doedd gan nifer fawr o bobl tu hwnt i'r ardaloedd diwydiannol ddim profiad o drefnu ymgyrchoedd yn erbyn llywodraeth y dydd. Dywedodd y Dr Roberts:
"Symudwyd llawer mwy o bobl oddi yno nag yn achos Capel Celyn, felly fe allech chi ddadlau fod Capel Celyn wedi cael gormod o sylw."
Chwalfa
Fel yng Nghapel Celyn, cafodd adeiladau eu chwalu. Cafodd y meirw eu datgladdu a'u rhoi i orffwys ym mynwent yr eglwys yn y pentref newydd.
Erbyn hyn, yr unig le mae'n bosib gweld unrhyw olion o'r pentref gwreiddiol yw mewn hen luniau ac ar .
Mae Eiddwen Jones wedi ysgrifennu nofel am yr hanes o'r enw Cofiwch Llanwddyn, a gyhoeddwyd pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Faldwyn yn 2015.
Meddai ar y pryd: "Tristwch ac anghyfiawnder mwyaf yr hanes yw nad oedd gan y pentrefwyr, fel taeogion di-rym, y gallu na'r dylanwad i fedru gwrthwynebu'r trychineb."
"Er bod hanes Tryweryn wedi'i serio ar gof y genedl, mae Dyffryn Efyrnwy, ac ing y pentrefwyr, wedi'u hen anghofio erbyn heddiw. Hyd yn oed yng nghyfnod y boddi ei hun, anwybyddwyd trigolion yr 'Hen Lan' i bob pwrpas, gan bapurau newydd yr oes."
(Addaswyd yr erthygl hon o erthygl a gyhoeddwyd yn 2015)
Hefyd o ddiddordeb: