大象传媒

Datgelu manylion gwasanaeth tr锚n 'sy'n ffit i'r dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Tr锚n Avanti West CoastFfynhonnell y llun, Avanti West Coast
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd trenau Avanti West Coast yn cymryd lle rhai Virgin Trains o 8 Rhagfyr ymlaen

Mae'r bartneriaeth fydd yn gyfrifol am redeg trenau cyflym rhwng gogledd Cymru a Llundain o fis Rhagfyr ymlaen yn bwriadu darparu gwasanaeth "dyfeisgar" sy'n "barod am heddiw ac yn ffit i'r dyfodol".

Bydd gwasanaeth Avanti West Coast yn dod i rym ar 8 Rhagfyr wedi i bartneriaeth FirstGroup a Trenitalia - First Trenitalia - ennill hen gytundeb Virgin Trains.

Nhw fydd yn gyfrifol am ryddfraint prif reilffordd yr arfordir gorllewinol, sy'n cysylltu Caergybi 芒 Llundain, Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Glasgow.

Yn 么l rheolwyr fe fydd yn arwain at wasanaeth "mwy cyfforddus, dibynadwy a gwyrdd".

Mwy o drenau a seddi

Dywed First Trenitalia bod yna ymroddiad i sicrhau nifer o welliannau i deithwyr yn cynnwys mwy o drenau, seddi a theithiau yn ogystal 芒 phrisiau symlach a gwasanaethau amlach.

Mae'n fwriad i ailwampio 56 o drenau Pendolino yn llwyr gyda 25,000 o seddi newydd, gwasanaeth Wi-Fi mwy dibynadwy a gwell ddarpariaeth arlwyo.

Maen nhw'n dweud y bydd yna 263 yn fwy o wasanaethau tr锚n drwy'r DU erbyn 2022.

Ffynhonnell y llun, Avanti West Coast
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd logo'r gwasanaeth ei ddatgelu mewn digwyddiad yn Birmingham

Wrth ddatgelu enw a logo'r brand Avanti West Coast yn Birmingham nos Fercher, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr First Rail, Steve Montgomery: "Mae heddiw'n nodi dechrau cyfnod newydd o ran gwasanaethau rheilffordd cyflymder uchel.

"Mae Avanti West Coast yn corffori'r math o wasanaeth blaengar rydym yn bwriadu ei redeg, sy'n barod am heddiw ac yn ffit i'r dyfodol."

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Trenitalia (UK) Ltd, Ernesto Sicilia, bod Avanti West Coast "yn frand cryf, blaengar a deinamig sy'n adlewyrchu ein hymroddiad i roi gwasanaeth arbennig i'n cwsmeriaid" a bod yr enw Avanti - 'Ymlaen' yn Eidaleg - yn "cynrychioli'r gwerthoedd yma i'n cwsmeriaid ac yn deyrnged i'n harbenigedd wrth drawsnewid rheilffyrdd Yr Eidal".