大象传媒

Newid yr Arolwg Cenedlaethol rhag 'anghofio' lleiafrifoedd

  • Cyhoeddwyd
Kizzy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kizzy Crawford: 'Dwi'n cysidro fy hun fel Cymraes'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd newid yn cael ei wneud i'r Arolwg Cenedlaethol yn dilyn pryder fod pobl o gefndir ethnig lleiafrifol yn cael eu "hanghofio."

Daw'r newid yn dilyn beirniadaeth nad oedd opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes o gefndir ethnig lleiafrifol yng Nghyfrifiad 2021.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y Gweinidog Cyllid ddweud ei bod wedi codi pryderon gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ynglyn a'r Cyfrifiad.

Ond mae wedi dod i'r amlwg fod yr Arolwg Cenedlaethol sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys yr un opsiynau.

Hunaniaeth

Pan fydd pobl Cymru yn llenwi'r Cyfrifiad ymhen dwy flynedd, yn 么l fersiwn ddrafft y ffurflen, bydd blwch i bobl sy'n wyn nodi eu bod yn cyfri'u eu hunain yn Gymreig, Seisnig, Albanaidd, Gogledd Wyddelig neu Brydeinig.

Ond ar gyfer grwpiau eraill, does 'na ddim blwch sy'n cynrychioli'r bobl hynny sydd eisiau cyfrif ei hunain yn Gymry - dim ond fel Prydeinwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rebecca Evans ei bod yn cytuno nad yw'r Cyfrifiad yn "gynhwysol i bob aelod o gymdeithas sy'n ystyried eu hunain yn Gymry ond sydd ddim yn wyn".

Mae'r cwestiwn sy'n cael ei gynnig yn Yr Alban yn wahanol, gyda modd i leiafrifoedd ethnig dicio blwch yn nodi os ydyn nhw'n Brydeinig, Albanaidd neu fel arall.

Mae'r opsiynau wedi ennyn beirniadaeth oddi wrth ymgyrchwyr gan gynnwys y gantores o Ferthyr Tudful, Kizzy Crawford.

Yn siarad yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ei bod yn cytuno nad yw'r Cyfrifiad yn "gynhwysol i bob aelod o gymdeithas sy'n ystyried eu hunain yn Gymry ond sydd ddim yn wyn".

Newid y cwestiwn

Dywedodd bod y llywodraeth wedi codi'r mater gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ers tro.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cael ei gwblhau gan 12,000 o bobl ar draws Cymru yn flynyddol ac mae'n cynnwys cwestiwn ar iechyd, addysg a hunaniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym eisoes wedi cynllunio i newid y cwestiwn yn yr Arolwg Cenedlaethol."

Mae disgwyl i'r newidiadau gael eu cwblhau mewn pryd ar gyfer y Cyfrifiad Cenedlaethol yn 2020-21.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bydd modd i bobl nodi eu hunaniaeth fel maen nhw'n dymuno.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi ymgysylltu yn eang 芒 defnyddwyr yng Nghymru, ac rydym yn cynnig bod unrhyw un sydd am nodi eu bod yn 'Gymraeg' hefo categori arall (gan gynnwys 'Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig', a 'Du, Du Prydeinig, Carib茂aidd neu Affricanaidd') yn gallu gwneud hynny trwy gwblhau un o'r opsiynau ysgrifenedig."