Rhybudd am wyntoedd 70mya ar hyd arfordir Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd y gallai gwyntoedd o hyd at 70mya daro arfordir Cymru, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobl i sicrhau bod eu haddurniadau Nadolig yn ddiogel.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru o 15:00 ddydd Sul nes 09:00 fore Llun.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus yn debygol a bod toriadau i gyflenwadau trydan yn bosib.
"Fe allai fod oedi i drafnidiaeth, ac efallai y byddai'n syniad i sicrhau bod eitemau tu allan - gan gynnwys unrhyw addurniadau Nadolig - yn ddiogel," meddai'r Swyddfa Dywydd.
Ychwanegodd y rhybudd ei bod yn debygol y bydd mannau arfordirol yn cael eu taro gan donnau mawr.
Nos Sul mae un l么n ar gau ar Bont Hafren ar yr M48 ac mae pontydd Britannia a Chleddau ar gau i gerbydau uchel.
Yn gynharach nos Sul cafodd sioe olau Parc Margam ger Port Talbot ei chanslo am resymau iechyd a diogelwch.
Nos Sadwrn daeth sgaffaldau lawr i ben car yng Nghaerdydd oherwydd gwyntoedd cryfion.
Roedd y car wedi ei barcio ar Ffordd Clive yn Grangetown.
Dywed Heddlu'r De na chafodd neb ei anafu.