Nyrs 'ddim mewn cyflwr addas i yrru' cyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed nad oedd nyrs sydd wedi'i chyhuddo o ladd gyrrwr arall mewn gwrthdrawiad mewn cyflwr addas i yrru ar 么l cymryd cyffur lladd poen tramadol.
Mae Cerys Price, 28 o Frynmawr, yn gwadu achosi marwolaeth Robert Dean, 65, yn y gwrthdrawiad ger Casnewydd ym mis Gorffennaf 2016.
Mae Ms Price hefyd yn gwadu achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus, wedi i'w chyn-gariad Jack Tinklin gael ei anafu hefyd yn y gwrthdrawiad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A467, a bu farw Mr Dean yn y fan a'r lle.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y cwpl yn bwriadu mynd i wersylla ond eu bod wedi ffraeo, a bod Ms Price wedi troi am yn 么l i fynd adref.
Dywedodd Mr Tinklin bod Ms Price wedi ymddwyn fel pe bai wedi cael "trawiad" a'i bod "wedi cwympo dros yr olwyn" cyn y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol fod Ms Price yn cymryd meddyginiaeth.
Ond fe wnaeth yr heddlu ddarganfod twb o'r lladdwr poen tramadol yn y car, gyda dim ond 26 tabled o'r twb o 100 ar 么l.
Dywedodd Timothy Evans ar ran yr erlyniad bod Ms Price wedi cymryd "llawer mwy" na fyddai'n cael ei awgrymu gan unrhyw feddyg.
"Doedd hi ddim mewn cyflwr addas i yrru car - roedd hi fel pe bai ar gyffuriau," meddai.
Mae'r achos yn parhau.