Cwblhau taith tr锚n stem o Langollen i Gorwen
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o adfer hen reilffordd rhwng Llangollen a Chorwen yn Sir Ddinbych ar fin cael ei gwblhau ar 么l cyfnod o 45 mlynedd.
Cafodd 10 milltir o gledrau eu hail osod ar gyfer y gwasanaeth tr锚n stem, gyda phlatfform newydd yn cael ei godi yng Nghorwen.
Yn gynharach eleni cafodd y 拢10,000 olaf ei godi ar gyfer gwaith angenrheidiol yng ngorsaf newydd Corwen.
Mae disgwyl i'r holl waith ar y llinell gael ei gwblhau yn ffurfiol ddydd Mawrth.
"Mae'n achlysur pwysig, nid yn unig i'r gwirfoddolwyr sy' wedi gwneud y gwaith, ond hefyd i bobl Corwen sydd wedi bod mor gefnogol i'r cynllun," meddai George Jones o Brosiect Rheilffordd Corwen.
Mae disgwyl i'r gwasanaeth llawn rhwng Llangollen a Chorwen ddechrau'r flwyddyn nesaf ar 么l i brofion gael eu cynnal ar y traciau.
Yn y cyfamser fe fydd y gwaith o gwblhau'r platfform yng Nghorwen yn cael ei gwblhau.
Dywedodd Bill Shakespeare, llywydd Rheilffordd Llangollen sy'n 92 oed: "Doeddwn i ddim yn tybio pan gafodd y cledrau cyntaf eu gosod yn Llangollen n么l yn 1975 y byddai'n cymryd cyhyd i gyrraedd gorsaf newydd yng Nghorwen!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019