大象传媒

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog cael brechlyn ffliw

  • Cyhoeddwyd
FfliwFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y cyhoedd, yn enwedig plant ifanc, i sicrhau eu bod yn cael brechlyn rhag y ffliw mor fuan 芒 phosib.

Dywed y corff iechyd fod arwyddion fod y ffliw yn lledu, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld 芒 meddygfeydd gyda symptomau tebyg i'r ffliw.

Mae profion labordai hefyd wedi cadarnhau achosion o'r firws

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'n hynod o bwysig fod plant dwy a thair oed ynghyd 芒 phobl sydd 芒 phroblemau iechyd hir dymor yn cael y brechlyn.

Dywedodd Dr Richard Roberts, pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Does neb eisiau ffliw adeg y Nadolig, a brechu yw'r ffordd orau i amddiffyn eich hun, ac i atal chi rhag ei roi i eraill.

"Pe bai chi mewn gr诺p sy'n gymwys, 'di o ddim yn rhyw hwyr i gael brechlyn ac i amddiffyn eich hun."

Y grwpiau sy'n gymwys am frechlyn yn rhad ac am ddim yw pobl a phroblemau iechyd hir dymor, gan gynnwys asthma, merched beichiog, plant dwy a thair oed, pobl dos 65 oed, gofalwyr a phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae'r rhan fwyaf o frechlynnau yn cael eu rhoi yn y feddygfa, ond maen nhw hefyd ar gael mewn nifer o fferyllfeydd cymunedol.