大象传媒

Sut i gael Dolig diwastraff

  • Cyhoeddwyd
Alwen a'r teuluFfynhonnell y llun, Alwen Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alwen a'r teulu

A oes modd dathlu'r tymor pan mae nifer ohonom yn gorfwyta a'n gorwario mewn ffordd 'gwyrdd'? Yn 么l Alwen Marshall Lewis, sy' wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel athrawes er mwyn agor siop bwyd iach ecogyfeillgar Iechyd Da yn yr Eglwys Newydd, mae'n bosib dathlu'r Nadolig mewn ffordd llai gwastraffus.

Yma mae Alwen yn rhannu ei chyngor gyda Cymru Fyw.

Addurno

Prynwch goeden Nadolig go iawn, gwell byth os ydy hi'n un wedi ei phlannu mewn potyn fel ei bod yn para am byth.

Peidiwch 芒 phrynu addurniadau newydd. Defnyddiwch hen rai, prynwch rai o siopau elusen neu gwefannau prynu pethau ail law. Neu defnyddiwch blanhigion o'r ardd i greu addurniadau naturiol megis celyn ac aeron.

Gwnewch eich addurniadau eich hun drwy ailddefnyddio ac ailwampio pethau sy' gennych yn barod. Crewch gadwyn o dafelli o orenau sych a gemwaith sydd ddim eu hangen mwyach - byddwch yn greadigol!

Bwyd

Peidiwch 芒 gwastraffu bwyd dros y Nadolig. (Haws dweud na gwneud, wn i!) Cynlluniwch cyn prynu drwy ysgrifennu dyddiadur prydau bwyd ar gyfer yr wythnos i geisio prynu yr hyn rydych ei angen yn unig.

Peidiwch 芒 mynd i archfarchnad heb restr siopa neu mi fyddwch chi'n cael eich temptio i brynu pob math o ddanteithion nad ydych eu hangen.

Beth am brynu bin compost ar gyfer pydru'r bwyd yn yr ardd fel bo hyd yn oed y m芒n wastraffion a fethoch chi eu hosgoi yn mynd i gael eu troi yn rhywbeth o werth. Os oes bwyd dros ben, defnyddiwch y rhewgell - bydd bil bwyd mis Ionawr yn llawer llai ac amser bwyd yn llawer mwy cyfleus.

Defnyddiwch wefannau bwyd am ryseitiau arbennig ar gyfer bwyd dros ben. Iachach i'r pwrs, i'r corff ac i'r blaned!

Anrhegion

Peidiwch 芒 gwastraffu arian ar bethau diangen! Prynwch brofiadau i bobl yn hytrach na phethau materol. Beth am dicedi i'r theatr, ymweliad i atyniad, pryd o fwyd mewn bwyty, aelodaeth i glwb, tanysgrifiad i gylchgrawn neu gerddoriaeth?

Neu gwell fyth rhowch eich amser iddynt ar ffurf addewid o rywbeth rydych chi am wneud iddynt, er enghraifft, gwneud yr ardd, coginio pryd o fwyd, mynd i rhywle arbennig gyda nhw.

Ffynhonnell y llun, Alwen Lewis

Prynu'n lleol

Os ydych yn prynu anrhegion, ceisiwch siopa'n lleol a phrynwch gynnyrch sydd wedi ei greu gan wneuthurwyr lleol a chwmn茂au bychan. Defnyddiwch gwmn茂au cyfrifol a chynaliadwy sy'n gofalu am eu cwsmeriaid, rhoi gwasanaeth personol a gofalgar ac yn malio am yr amgylchedd. Byddwch yn lleihau yr 么l troed carbon, osgoi taliadau postio a deunydd pacio ac yn cefnogi busnesau bach lleol. Perffaith!

Prynwch bethau ail-law a'u hail wampio i roi ail fywyd iddynt. Fe gewch chi lawer mwy am eich harian mewn siopau elusen ac efallai y dewch chi ar draws ambell i drysor yn eich helfa. Ac wrth gwrs bydd elusen yn elwa.

Creu rai eich hun!

Cyn prynu unrhyw beth eleni, gofynnwch i chi eich hunain - A oes rhaid i mi wastraffu arian ar hwn neu a fedra i greu un fy hun?

Ceisiwch wneud craceri, cardiau, labeli ar gyfer anrhegion a hyd yn oed yr anrhegion eu hunain!

Coginiwch eich anrhegion - bisgedi, jam, picl, teisennau, losin... Fyddan nhw'n llawer mwy diddorol ac unigryw a bydd y wefr o fod wedi ei greu eich hunain yn llawer gwell teimlad na thalu rhywun arall am eu fersiwn tila nhw!

Ffynhonnell y llun, Alwen Lewis

Osgoi pacedi plastig untro

Drwy ddilyn y ddau bwynt uchod sef prynu'n lleol a chreu rhai eich hunain, mae'n llawer haws i chi osgoi pacedi plastig untro. Mae'r mwyafrif o'r pacedi plastig diangen sydd yn cael eu rhoi ar y nwyddau a brynwn yn blastig na allwn ei ailgylchu.

Ceisiwch osgoi'r bwydydd sydd yn dod mewn pacedi plastig hefyd. A oes rhywbeth tebyg i'w gael mewn jar/potel gwydr yn hytrach na photyn/potel blastig? A oes opsiwn mewn paced sy'n pydru? Efallai bydd angen i chi brynu math gwahanol i'r un a brynwch yn arferol, ond rhowch glod i chi eich hun am wneud y newid. Llai o wastraff plastig yn llygru'r blaned - gwych!

Anrhegion ecogyfeillgar

Ffynhonnell y llun, Alwen Lewis

Ewch gam ymhellach gyda'r broblem plastig - ceisiwch osgoi anrhegion plastig diangen a rhowch anrhegion a fydd yn annog ac ysbrydoli'r person i ddechrau siwrne ddi-blastig fel adduned blwyddyn newydd.

Peidiwch 芒 defnyddio papur lapio cyffredin - mae'r mwyafrif llethol ohono yn ddeunydd na all gael ei ailgylchu. Dydy t芒p selo ddim yn ailgylchadwy felly osgowch hwnnw'r Nadolig hwn. Prynwch d芒p brown gludiog ailgylchadwy yn ei le.

Yn lle papur lapio, beth am ddefnyddio:

  • Papur brown plaen a chlymu llinyn o'i amgylch

  • Hen bapur newydd gyda rhuban

  • Hen fagiau anrhegion

  • Hen ddarnau o ddefnydd neu sgarffiau

Syniadau am anrhegion ecogyfeillgar

Mae llwyth o gynnyrch ecogyfeillgar hyfryd ar gael sy'n cael eu creu gan wneuthurwyr a chwmn茂au bychan yng Nghymru. Beth am rywbeth o'r rhestr isod?

  • Bariau sebon a siamp诺

  • Eli wyneb/dwylo/traed mewn potiau gwydr neu fetel

  • Cynnyrch eillio: rasal metel, bariau sebon eillio, brwsh eillio

  • Canhwyllau arogl da mewn potiau gwydr

  • Brwsh dannedd bamb诺 a thabledi past dannedd

  • Cadachau c诺yr i'w defnyddio yn lle rhoi bwyd mewn cling film neu bagiau bwyd plastig

  • Bagiau siopa

  • Cadachau tynnu colur

  • Cadachau 'molchi a bagiau dal sebon wedi eu gweu neu eu crosio (neu gwnewch rai eich hunain!)

  • Diaroglydd mewn tiwb cardfwrdd neu tun metel

  • Fflasgiau diod metel

  • Bocsys bwyd metel

  • Cwpanau coffi sy'n cywasgu i ffitio yn eich bag

Ffynhonnell y llun, Alwen Lewis

Weithiau mae hi'n werth gwario...

Cofiwch - os ydych chi angen prynu anrhegion, mae'n werth prynu llai a gwario mwy ar rhywbeth o safon a fydd yn para am flynyddoedd a ddim yn torri o fewn wythnosau. Pryn rad, pryn eilwaith, fel oedd Taid yn ei ddweud!

Nadolig llai o wastraff llawen!

Hefyd o ddiddordeb