Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr bywyd gwyllt
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o r么l gwirfoddolwyr wrth fonitro niferoedd bywyd gwyllt y Deyrnas Unedig, yn 么l naturiaethwr blaenllaw.
Dywedodd y cyflwynydd Iolo Williams bod data hollbwysig yn cael ei gasglu gan "fyddin enfawr".
Ond fe honnodd nad oedd hyn yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol gan y sawl sy'n penderfynu ar bolis茂au amgylcheddol.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae hi'n ariannu cyfres o brosiectau monitro pwysig sy'n cynnwys gwirfoddolwyr.
Daw hyn wedi i adroddiad diweddar ar gyflwr byd natur, gan dros 70 o elusennau bywyd gwyllt, awgrymu bod yna gynnydd o 46% wedi bod o ran yr oriau sy'n cael eu cyfrannu gan wirfoddolwyr ar gyfer gwaith cadwraeth ar draws y DU ers y flwyddyn 2000.
Dywedodd Mr Williams ei bod hi'n bwysig bod llywodraethau'n deall bod data am fywyd gwyllt "yn fwy aml na heb yn cael ei gasglu gan bobl sy'n gwirfoddoli".
"Yn uwch i fyny - yn y Cynulliad, Llywodraeth Prydain ac ar lefel Ewropeaidd - dwi ddim yn credu eu bod nhw wir yn gwerthfawrogi bod lot o'r wybodaeth sy'n cael ei fwydo iddyn nhw i benderfynu ar bolisi wedi'i gasglu gan y fyddin enfawr yma o wirfoddolwyr.
"Mae'n amser cydnabod eu r么l nhw, a ma' honna'n r么l bwysig ofnadwy."
Fe ychwanegodd Cymdeithas Adaryddol Cymru bod ei haelodau'n aml yn teimlo bod eu gwaith i raddau helaeth "yn y cefndir".
Yn 么l y cadeirydd Mick Green mae "bron i'r holl" fonitro sy'n digwydd ar rywogaethau yng Nghymru yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr.
"Mae'r llywodraeth yn gorfod casglu peth o'r data yma dan gyfreithiau amrywiol," meddai.
"Ond maen nhw'n dibynnu yn fawr iawn ar seilwaith o wirfoddolwyr i wneud unrhywbeth mewn manylder, oherwydd yn amlwg mae pobl fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn toriadau flwyddyn ar 么l blwyddyn, a dyw'r adnoddau jyst ddim ganddyn nhw i wneud hyn bellach.
"Maen nhw'n hangen ni - ond fe allen ni wneud gyda mwy o help wrthyn nhw.
"Fe hoffen ni gael mwy o adnoddau er mwyn helpu'r gwirfoddolwyr - eu helpu nhw gyda hyfforddiant, efallai talu eu treuliau, costau trafnidiaeth er enghraifft.
"Ein neges ni i'r gweinidogion yw ariannwch ni. Os ydych chi'n ariannu rhwydwaith o wirfoddolwyr yna ry'ch chi'n cael cymaint yn fwy am eich pres - achos ry'ch chi'n cael yr amser am ddim."
Faint sy'n gwirfoddoli i fonitro bywyd gwyllt a pham fod hynny'n bwysig?
- Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 yn amcangyfri' bod 18,700 o wirfoddolwyr ynghlwm a chynlluniau monitro ffurfiol ar gyfer ystlumod, adar, glo每nnod byw a phlanhigion ar draws y DU - gyda gwerth ariannol eu cyfraniad amser tua 拢20.5m y flwyddyn.
- Mae hyd at 70,000 o wirfoddolwyr yn cyfrannu data i gynlluniau gan gymdeithasau cadwraeth a chanolfannau amgylcheddol lleol.
- Yna mae 'na arolygon sy'n annog y cyhoedd i gyfrannu - fel Gwylio Adar yr Ardd RSPB Cymru - sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed, gan ddenu bron i hanner miliwn o gyfranwyr.
- Mae monitro yn "adeiladu'n gwybodaeth ni o fyd natur, ac yn atgyfnerthu ymdrechion i'w warchod, ac i atal y dirywiad mewn bywyd gwyllt," medd yr adroddiad ac mae "nifer o arbenigwyr bywyd gwyllt uchel eu parch, sydd 芒 degawdau o brofiad ac arbenigedd, yn wirfoddolwyr".
Ers yn blentyn, mae Dan Rouse o Lanelli wedi bod yn monitro adar yn ei gwarchodfa leol ger Llanelli, gan nodi niferoedd gwahanol rywogaethau.
Erbyn hyn, mae hi'n defnyddio ap ar ei ff么n symudol i rannu'r data ag ymchwilwyr a gwirfoddolwyr eraill.
"Mae'r holl ddata sy'n cael ei gasglu gan bawb sy'n chwarae'u rhan yn rhoi syniad i ni o beth sy'n digwydd yn ein gwlad gyda phethau fel newid hinsawdd.
"Mae hefyd yn dweud pethau wrthon ni am brosiectau isadeiledd, ffyrdd newydd ac ati - sut ydyn ni'n effeithio ar eu cynefinoedd."
Yn ddiweddar mae'n dweud iddi sylwi ar gynnydd yn nifer y bobl ifanc sydd eisiau bod ynghlwm 芒'r gwaith.
"Mae natur yn hobi ar gyfer pobl ifanc erbyn hyn, dyw'r stigma ddim yna bellach. Ac mae 'na gymaint yn fwy chi'n gallu gwneud gyda thechnoleg erbyn hyn, a defnyddio'ch ffon i lwytho data.
"Mae hynny'n dod a chenhedlaeth newydd at gadwraeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "hynod o ddiolchgar i wirfoddolwyr am eu cyfraniad allweddol yng Nghymru" a'u bod yn "ariannu prosiect gwerth 拢2.8m i gryfhau partneriaethau natur lleol".