大象传媒

Cynulliad yn wynebu bil o 拢4m i newid ffenestri T欧 Hywel

  • Cyhoeddwyd
T欧 HywelFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae T欧 Hywel yn eiddo i Equitix Tiger English LP o Lundain

Mae'r corff sy'n rheoli'r Cynulliad yn ystyried newid ffenestri ar gost o 拢4m yn y swyddfeydd lle mae'n denant.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad fod gan "nifer gynyddol o'r ffenestri ddiffygion" yn Nh欧 Hywel, drws nesaf i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Ychwanegodd bod "lleoliad yr adeilad mewn amgylchedd arfordirol wedi arwain at oes weithredol lai" ar gyfer y ffenestri 28 oed.

Mae T欧 Hywel yn cael ei rentu tra bod adeilad y Senedd, sy'n cynnwys y Siambr, yn eiddo i'r Cynulliad.

Mae adeilad T欧 Hywel, sy'n gartref i swyddfeydd ac ystafelloedd pwyllgor, yn eiddo i Equitix Tiger English LP o Lundain, partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd gyda Th欧'r Cwmn茂au ym mis Rhagfyr 2018.

'Y ffenestri mewn cyflwr gwael'

Yn 么l adroddiad cyllideb y comisiwn, mae gan ffenestri o'r math yn Nh欧 Hywel oes weithredol ddisgwyliedig o ryw 25-35 mlynedd ond "mae lleoliad yr adeilad mewn amgylchedd arfordirol wedi arwain at oes weithredol lai a welwyd trwy sawl arolwg annibynnol a gynhaliwyd er 2015.

"Mae'r arolygon wedi nodi bod y ffenestri mewn cyflwr ffisegol gwael a bod perfformiad thermol yr un mor wael," meddai'r adroddiad.

"Mae gan nifer gynyddol o'r ffenestri ddiffygion ac ni ellir cael rhannau newydd i wneud gwaith atgyweirio mwyach."

Mae'n egluro bod astudiaeth ddichonoldeb fanwl yn 2019-20 wedi nodi cost ddangosol o 拢4m ar gyfer y rhaglen gyfan ac mae "opsiynau cyllido yn cael eu hystyried".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad i reoli'r sefydliad yn 2007

Gan egluro pam fod y comisiwn fel tenantiaid, yn hytrach na'r landlord, yn gyfrifol am y gwariant, dywed y comisiwn: "Yn rhan o'r cytundeb prydles atgyweirio ac yswirio llawn ar gyfer T欧 Hywel, mae'n ofynnol i'r Comisiwn gynnal a chadw'r adeilad mewn cyflwr da, gan gynnwys gosod eitemau newydd yn lle eitemau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes fel boeleri, drysau a ffenestri."

Yn ystod dadl ar gyllideb y comisiwn yn y Senedd fis diwethaf fe wnaeth y comisiynydd sy'n gyfrifol am y gyllideb a llywodraethu, yr AC Ceidwadol Suzy Davies gydnabod "o ran y prosiect ffenestri, gwn fod hyn wedi peri syndod, efallai, i rai o Aelodau'r Cynulliad, ond nid oedd hynny byth am fod yn rhad".

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad wrth y 大象传媒: "Y Comisiwn newydd fydd yn gwneud y penderfyniad yngl欧n 芒'r gwaith yn y chweched Senedd [sy'n dechrau ar 么l etholiad 2021] a bydd hyn yn cynnwys penderfyniad ynghylch gwariant a chyfnod y prosiect er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian a mynd i'r afael 芒 phryderon ynghylch cynaliadwyedd."

Mae'r comisiwn, sydd 芒 chyllideb 拢61.4m ar gyfer 2020-21, hefyd wedi cadarnhau mai "amcan hirdymor" yw "sicrhau perchnogaeth ar D欧 Hywel rhywbryd yn y dyfodol".