Mamau'n sefydlu cynllun cyfnewid dillad
- Cyhoeddwyd
Mae criw o fenywod o ardal Aberporth yng Ngheredigion wedi creu cynllun arloesol i gyfnewid dillad.
Bwriad Dillad Dwywaith yw rhoi'r cyfle i drigolion lleol i gyfnewid dillad ar gyfer pobl o bob oedran, ond yn enwedig i blant ifanc.
Mae pobl yr ardal wedi bod yn cyfrannu dillad ail-law, ac mae modd i bobl eu cyfnewid am rai eraill yn Neuadd Pentref Aberporth.
"Sefydlon ni Dillad Dwywaith mas o syniad gyda gr诺p o famau," meddai un o'r trefnwyr, Lisa Stopher.
"Mae plant gyda ni gyd sydd yn tyfu mas o'u dillad. Mae e fel swap shop... iwso dillad o fewn y gymuned, fel bod ni'n gallu dod i rywle a mynd 芒 rhywbeth o Dillad Dwywaith a rhoi rhywbeth n么l i Dillad Dwywaith."
Mae Aberporth yn bentref di-blastig, ac mae'r pwyslais ar gynaladwyedd wedi rhoi hwb i'r cynllun, yn 么l Lisa Stopher.
"Mae'n hala ni gyd i feddwl. Mae plant yr ysgol feithrin yn meddwl amdano. Shwd allwn ni ail ddefnyddio dillad yn ein cymuned?"
Mae Aberporth yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg, sy'n cynorthwyo plant a theuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig.
"Mae yna angen," meddai Ms Stopher. "Mae angen yn y pentref. 'Dan ni wedi ceisio ailddefnyddio dillad a rhoi cotiau gaeaf sydd eu hangen nhw.
"Mae Aberporth yn llewyrchus yn yr haf, ond mae angen help ar rai pobl."
Yn 么l Nicola King, sydd yn gweithio yn yr ysgol feithrin leol, mae'r cynllun yn cynorthwyo gyda'r costau o gael dillad i blant ifanc.
"Mae gen i dri o fechgyn - pump, naw ac 11 oed. Fi'n gweithio llawn amser a fi dal yn stryglan weithie. Fi wedi swopo wellies a cotiau i fy machgen bach i."
Fe fydd y dillad ar gael bob dydd Mawrth yn Neuadd Aberporth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019