大象传媒

Talu i yrru i ganol Caerdydd?

  • Cyhoeddwyd
Canol Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae lefel llygredd aer yng Nghaerdydd y pedwerydd waethaf yn y DU

Bydd mesurau i fynd i'r afael 芒 thagfeydd a llygredd aer ym mhrifddinas Cymru'n cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gyhoeddi papur gwyn ar drafnidiaeth ar 15 Ionawr fydd yn weithredol am y degawd nesaf.

Ar gyfartaledd mae llygredd aer yng Nghaerdydd y pedwerydd waethaf yn y DU, gyda Heol y Castell yn destun pryder arbennig.

Fe allai'r cynlluniau gynnwys codi t芒l ar yrwyr sy'n dod i mewn i ganol y ddinas, ac mae hynny wedi codi pryder gwahanol.

Yn flaenorol fe wnaeth Cyngor Caerdydd gyhoeddi newid i fynedfeydd i gerbydau fel rhan o gynlluniau gwerth 拢21m i lanhau aer y brifddinas.

Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys newid llif y traffig a chyflwyno 36 o fysys trydan yn lle'r cerbydau hynaf oedd yn dal i redeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynghorydd Joel Williams yn credu mai camgymeriad fyddai cyflwyno t芒l ar yrwyr yng nghanol y ddinas

Cafodd y syniad o godi t芒l ar fodurwyr i fynd i mewn i "ardal awyr l芒n" yng nghanol y ddinas eu gollwng ym mis Mawrth y llynedd, ond mae rhai cynghorwyr yn pryderu y gallai'r syniad yna gael ei atgyfodi.

Mae'r cynghorydd Joel Williams, sy'n cynrychioli Hen Laneirwg, yn credu mai camgymeriad fyddai hynny.

"Byddai t芒l o'r fath ar hyn o bryd yn chwalu busnesau lleol ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

"Mae pobl yn cefnogi lleihau allyriadau niweidiol, ond cyn hynny mae'n rhaid buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus... fel arall dim ond esgus dros godi t芒l ar bobl yw hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Nid mater o gosbi gyrwyr yw hyn,' medd Huw Cook

Ond fe ddywed elusen Awyr Iach Cymru a'r British Lung Foundation yn credu bod angen "mesurau beiddgar".

Dywedodd Huw Cook o Awyr Iach Cymru: "Ardaloedd awyr l芒n yw'r dull mwyaf effeithiol o leihau llygredd aer yn y tymor byr a gweithio tuag at lefelau aer glanach yn y tymor hir.

"Nid mater o gosbi gyrwyr na chreu refeniw yw hwn. Mae'n fater o newid ymddygiad, yn debyg iawn i sut gwaeth gwahardd ysmygu wneud gyda iechyd cyhoeddus."

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i "fynd ymhellach" na chyd-fynd 芒 chanllawiau'r Undeb Ewropeaidd am lefelau'r nwy nitrogen deuocsid.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys newidiadau i'r polisi trwyddedu tacsis a throi Heol y Castell a Heol y Porth yn ffyrdd trafnidiaeth un l么n.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oes lefel diogel o lygredd aer, a phrif ffynhonnell aer budr yn y brifddinas yw trafnidiaeth ar ein ffyrdd gyda pheiriannau disel y pryder mwyaf.

"Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i gael gwelliant sylweddol i'r isadeiledd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif i mewn, ac o fewn ffiniau'r ddinas."