Canolfan newydd i oruchwylio'r Metro
- Cyhoeddwyd
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn agor canolfan newydd fore Mercher fel y cam nesaf tuag at wireddu gwasanaeth Metro De Cymru.
Bydd Canolbwynt Isadeiledd y Metro yn agor yn Nhrefforest, a bydd yn cynnwys swyddfeydd rheoli ac adnoddau dosbarthu.
Oddi yno mae Trafnidiaeth Cymru'n gobeithio cyflawni "gweddnewidiad o leiniau'r Cymoedd" fel rhan o Metro De Cymru.
Drwy uno llwybrau trenau, bysus a theithio actif, nod y Metro fydd gwella cysylltiadau teithio ar draws y de, gan wella mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i'r trigolion.
Cafodd prosiect Metro De Cymru ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Un o rhannau mwyaf blaenllaw y Metro fydd buddsoddiad o 拢738m i leiniau'r cymoedd i Dreherbert, Aberd芒r, Merthyr Tudful, Rhymni a Choryton.
Fe ddywed Trafnidiaeth Cymru y bydd mwy na 170km o'r trac yn cael ei drydaneiddio, a bydd gorsafoedd, signalau a thraciau yn cael eu huwchraddio gan gynnwys codi o leiaf pum gorsaf newydd.
Am y pum mlynedd gyntaf bydd y ganolfan newydd yn cael ei defnyddio fel canolfan ddosbarthu deunyddiau, ac yna'n troi'n ganolfan gynnal a chadw tan ddiwedd cyfnod y cytundeb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2018