大象传媒

Pryder am ddyfodol cwmni awyrennau Flybe

  • Cyhoeddwyd
FlybeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe adawodd hediad o Gaerdydd i Ddulyn fel yr arfer fore Llun

Mae Maes Awyr Caerdydd yn mynnu bod hediadau Flybe yn gweithredu fel yr arfer yno, er gwaethaf ansicrwydd am ddyfodol y cwmni awyrennau.

Yn 么l adroddiadau, mae Flybe ynghanol trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu eu dyfodol.

Dywed Sky News fod Flybe mewn trafodaethau gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Adran Drafnidiaeth am gyllid brys posib ar 么l dioddef colledion cynyddol.

Mae'n debyg bod tua 2,000 o swyddi mewn perygl.

Dywed y cwmni nad oedden nhw am wneud sylw ar "s茂on".

Dywedodd Spencer Birns, prif swyddog masnachu Maes Awyr Caerdydd, fod "gweithrediadau Flybe i mewn ac allan o Gaerdydd yn gweithredu fel yr arfer".

"Ein cwsmeriaid yw ein prif ffocws, a byddwn yn ymdrechu i'w diweddaru yn llawn," meddai.

"Rydym yn cynghori unrhyw gwsmeriaid sydd ag ymholiadau ynghylch eu teithio i gysylltu 芒'r cwmni hedfan yn uniongyrchol."

Dywedodd llefarydd ar ran Flybe eu bod yn "parhau i ddarparu gwasanaeth gwych i'n cwsmeriaid".

"Nid ydym yn gwneud sylwadau ar s茂on na dyfalu," meddai.

Mae'r cwmni'n gweithredu mwy o hediadau domestig yn y DU nag unrhyw un arall.