大象传媒

Connagh Howard: Wyneb newydd Love Island

  • Cyhoeddwyd
ConnaghFfynhonnell y llun, ITV

Am y tro cyntaf eleni mae'r rhaglen boblogaidd Love Island yn darlledu fersiwn ar gyfer y gaeaf. Cystadleuydd newydd yn y Villa yn Ne Affrica yw Connagh Howard o Gaerdydd.

Mae Connagh yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac yn gweithio fel model yn Llundain. Felly dyma gyfle i ddod i 'nabod Connagh, sydd hefyd yn gweithio fel model, ychydig yn well.

Oeddet ti'n hyderus am y ffordd oeddet ti'n edrych pan oeddet yn iau?

Na dim really. Yn tyfu lan (a hyd heddiw) o'n i'n nerd mawr, yn hoffi chwarae gemau cyfrifiadurol a darllen comics.

Dydw i ddim yn berson hynod o hyderus yn naturiol ond dwi'n ddigon hyderus i gynnal sgwrs gyda unrhyw un ac yn mwynhau cymdeithasu. Dwi ddim yn rhywun sy'n edrych ar ei hun yn y drych bob dau funud.

Ffynhonnell y llun, FUTURE MODELS MANAGEMENT

Sut wnaeth dy yrfa fodelu ddechrau?

Roeddwn i'n helpu ffrind oedd yn y Brifysgol yn astudio ffasiwn a dylunio. 'Nath hi ofyn i fi os byswn i'n gwisgo ei dillad hi ar gyfer sioe ffasiwn, ac wedi y sioe ges i'r cynnig i wneud fwy o fodelu gan asiant o Future Model Management.

Cyn i mi ddechrau modelu fy hun doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb yn y maes i fod yn onest, nes i ddim ond gwneud oherwydd o'n i eisie gwneud ffafr i fy ffrind, ac yna o'n i'n meddwl: "Ie, waeth i mi drio fe".

Ffynhonnell y llun, Future Model Management

Disgrifia dy ddiwrnod arferol fel model

Ar ddiwrnod cyffredin fydda i'n edrych ar fy e-byst a tecsts ben bore i weld pa gynigion sydd wedi dod mewn.

Er enghraifft, bydde New Look yn cysylltu, af i draw ac maen nhw'n tynnu 'chydig o polaroids, ac yna os dwi'n cael y swydd bydde ni'n trefnu yn eitha' sydyn lle a phryd i dynnu'r lluniau a'r holl fanylion eraill.

Gyda rhai jobs, dwi ddim yn gwybod amdanyn nhw tan y bore yna, ond weithie bydde ti'n cael mwy o rybudd a gwybodaeth - mae'n dibynnu ar natur y swydd.

Weithiau mae'n bosib i gwmn茂au fwcio model yn uniongyrchol o safle we fy asiantaeth, ac felly does dim angen mynd i castio.

Fel arfer mae hi fel oriau swydd gyffredin 9-5, ond os ydych chi ar leoliad rhywle mae'n gallu bod yn ddiwrnod hir.

Ffynhonnell y llun, NextManagement

Oes pwysau arnat ti i gadw'n heini ac edrych yn dda?

Yn sicr mae'n helpu oherwydd mae'n rhaid gwneud yn si诺r eich bod yn edrych ar eich gorau.

Mae rhai cleients eisiau rhywun efo cyhyrau, ble mae rhywun arall efallai eisiau model i fod yn fwy tenau, ond i fod yn onest dwi ond yn mynd i casting i swyddi sy'n addas i mi.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Connagh ar ei ffordd i Love Island

Oes cystadleuaeth am y swyddi rhwng y modelau?

Na does 'na ddim cystadlu ffyrnig achos ti'n cwrdd 芒'r un bobl yn aml ac felly yn gwneud ffrindiau yn y busnes.

Os wyt ti'n cael dy anfon i casting yn rhywle mae'n debygol y bydd rhywun arall yno sydd yn edrych dipyn fel ti dy hun a'r un oed. Yn naturiol ti eisiau'r swyddi gorau, ond mae cyfeillgarwch yn bwysig iawn yn y diwydiant.

Ffynhonnell y llun, Future Model Management

Beth yw'r gwahaniaethau mwyaf rhwng y byd modelu i ddynion a merched?

Efallai bod yna fwy o ferched yn modelu na dynion a bod hi'n anoddach i gael y swyddi gorau.

Ond ar y cyfan dwi'n meddwl bod amodau gwaith yn eitha' tebyg i'r ddau ryw.

Wyt ti wedi cael profiad o ragfarn yn dy waith fel model?

Yn bersonol dwi ddim wedi dod ar draws unrhyw ragfarn na hiliaeth yn fy erbyn i a dydw i ddim yn gwybod am hynny'n digwydd i unrhyw un arall chwaith. Dwi'n teimlo bod y byd ffasiwn yn rhoi'r cyfle i bobl o bob cefndir.

Wrth gwrs mae rhai swyddi modelu yn golygu bod angen look arbennig sydd efallai dim yn addas i fi, ond eto mae rhai swyddi yn berffaith i fi gan bod nhw'n chwilio am fodelau aml-hil (mixed race) neu ddu.

Wyt ti'n ffeindio'r byd modelu braidd yn arwynebol?

Mae 'na rhyw syniad o'r byd modelu fel y ffilm Zoolander, sydd yn ddoniol iawn. Mae pawb dwi'n nabod yn y diwydiant yn hoffi chwerthin ar hynny - mae fy mhrofiadau i fel model wedi bod yn llawer o hwyl ac yn eitha' relaxed.

  • Cafodd y cyfweliad yma ei gyhoeddi gyntaf gan Cymru Fyw ym mis Tachwedd 2017

Hefyd o ddiddordeb: