Gwreiddiau Cymreig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Joe Cornish

Disgrifiad o'r llun, Dinas Oleu, o draeth Y Bermo, neu Abermaw

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 125 oed eleni - a'r safle cyntaf un i gael ei warchod gan yr elusen oedd darn o dir yng Nghymru.

Gyda 250,000 hectar o dir ffermio, 780 milltir o arfordir a 500 eiddo hanesyddol, erbyn heddiw yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw elusen gadwriaethol fwyaf Ewrop. Ond pan gafodd ei sefydlu ym mis Ionawr 1895, doedd dim tir nag eiddo i'w enw o gwbwl.

Octavia Hill, Sir Robert Hunter a Hardwicke Rawnsley oedd tu 么l i'r syniad o greu mudiad fyddai'n diogelu natur, ardaloedd o harddwch, a lleoliadau hanesyddol.

Roedd Octavia Hill, er enghraifft, eisoes wedi bod yn ymgyrchu i amddiffyn lleoliadau naturiol yn Llundain i wneud yn si诺r fod pawb - yn cynnwys pobl mewn dinasoedd - yn gallu cael mynediad i ardaloedd o wyrddni.

Fe gafodd yr elusen ei chofrestru o dan y Ddeddf Cwmn茂au yn Ionawr 1895 ac o fewn ychydig wythnosau fe gawson nhw eu darn o dir cyntaf i'w warchod: Dinas Oleu ym Meirionnydd.

Mae'r pum acer wedi eu lleoli uwchben Y Bermo ac yn edrych dros aber y Fawddach a Bae Ceredigion.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Joe Cornish

Disgrifiad o'r llun, Dinas Oleu, uwchben Y Bermo

Fanny Talbot oedd y perchennog, oedd wedi dod i'r ardal o Loegr ac yn adnabod rhai o'r cymeriadau blaengar oedd yn ceisio newid cymdeithas ar y pryd - fel yr eglurodd yr hanesydd lleol Merfyn Tomos ar raglen Aled Hughes.

"Fanny Brown oedd ei henw hi cyn priodi a ganwyd hi yng Ngwlad yr Haf, nepell o Fryste.

"Roedd hi'n ferch i fasnachwr cefnog, oedd wedi gwneud ei bres mewn brics a theils - yn allforio nhw i'r cyfandir ac i'r America.

"Priododd hi'r llawfeddyg George Tertius Talbot - a pan fu o farw'n sydyn yn 1873, symudodd i fyw yn barhaol i'r Bermo i d欧 o'r enw T欧'n y Ffynnon, sydd reit uwchben craig yr hen Bermo, a'r eiddo yn cynnwys tir a thai yn ogystal.

Dod i adnabod John Ruskin

"Roedd hi'n wraig ddeallusol yn cymryd diddordeb ac yn cefnogi achosion da ac achosion dyngarol, ac ar 么l setlo yn Y Bermo mi ddaeth i gysylltiad efo John Ruskin, athro celf yn Rhydychen oedd yn ymddiddori mewn materion megis cyfiawnder cymdeithasol.

"Mi wnaeth John Ruskin yn 1874 ffurfio cwmni o'r enw Guild of St George gyda'r bwriad o roi rhai o'i syniadau ar waith ac mi wnaeth Mrs Talbot gynnig 12 o dai oedd ganddi yn Y Bermo yn rhodd i'r cwmni yma.

"Dwi'n meddwl dyna ddechrau ei chysylltiadau efo pobl fel Octavia Hill a Hardwicke Rawsley oedd yn arloeswyr yn sefydlu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedden nhw'n troi yn yr un math o gylchoedd."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Bu Fanny Talbot yn byw yn ei chartref yn Y Bermo hyd iddi farw yn 1917

Bu Talbot a Ruskin yn cyfathrebu am flynyddoedd gyda'i gilydd, ac yn chwarae gemau gwyddbwyll drwy lythyrau.

Ysgrifennodd John Ruskin amdani:

"Mae hi'n famol, yn hanner cant gyda llygaid duon, ac mae hi'n ddisglair... mae hi'n fwy chwilfrydig nag unrhyw bioden fuodd erioed, ond yn rhoi ei llwyau i ffwrdd o hyd yn hytrach na'u dwyn nhw."

Gwarchod y lleoliad

Roedd Fanny Talbot, fu'n byw yn T欧'n y Ffynnon tan iddi farw yn 1917, wedi bod yn ystyried gadael y tir i'r gymuned ers tro er mwyn i'r cyhoedd ei fwynhau ar ei h么l hi - ac felly roedd sefydlu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berffaith ar ei chyfer, meddai Merfyn Tomos:

"Roedd wedi colli ei unig fab ychydig o flynyddoedd ynghynt a dwi'n credu bod hynny yn ei meddwl hi hefyd pan wnaeth hi'r penderfyniad.

"Roedd hi ddigon hapus i gael llwybrau yn mynd drwy'r tir yma ond doedd hi ddim eisiau rhyw fath o feinciau fel yda chi'n cael yn y parciau cyhoeddus. Roedd hi reit hapus i gael ambell i ryw s锚t wedi ei wneud o gerrig ond doedd hi ddim eisiau i'r lle i gael ei sbwylio mewn unrhyw ffordd.

"Mae rhywbeth braf mai llecyn o dir, rhyw lain o dir, oedd y rhodd cyntaf yn hytrach na rhyw blasty urddasol."

Hefyd o ddiddordeb: