大象传媒

Enwi stryd fawr Treorci fel un orau'r Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr TreorciFfynhonnell y llun, Tom Wren | Visa
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae mwyafrif helaeth y siopau ar stryd fawr Treorci yn rhai annibynnol

Mae stryd fawr Treorci yn y Rhondda wedi'i henwi fel yr un orau yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd y dref ei gwobrwyo mewn seremoni yng Nghaeredin.

Mae gan y stryd fawr tua 100 o siopau gyda'r mwyafrif helaeth yn annibynnol.

Mae tua 20 o fusnesau newydd wedi agor yn ystod y tair blynedd diwethaf a saith yn ystod y chwe mis diwethaf.

Cafodd Stryd y Palas yn nhref Caernarfon hefyd ei gwobrwyo fel y stryd fwyaf addawol yng Nghymru.

'Gwaed, chwys a llafur'

Dywedodd gweinidog Stryd Fawr y DU, Jake Berry, fod y wobr yn adlewyrchu "pobl leol sy'n ymroddedig i gefnogi eu cymunedau".

Roedd Treorci yn drech nag Arberth yn Sir Benfro ac Abertawe am y teitl, ynghyd a nifer o rai eraill ar draws y DU, ar 么l enwebiad gan landlord tafarn leol, Adrian Emmett.

"Rydyn ni wedi creu hyn o waed, chwys a llafur gydag ysbryd cymunedol," meddai.

Ar hyn o bryd, meddai, mae 96% o'r adeiladau ar y stryd fawr wedi'u llenwi, ac mae dwy siop wag yn cael eu hadnewyddu.

Daw hyn ar 么l i Grucywel ym Mhowys hawlio coron y stryd fawr yn 2018.