大象传媒

Stereophonics i chwarae gig yn Y Faenol yn yr haf

  • Cyhoeddwyd
Kelly Jones o'r StereophonicsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Stereophonics wedi cyhoeddi y byddan nhw'n chwarae gig yn stad Y Faenol ger Bangor yn yr haf.

Fe fydd y cyngerdd yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf, bythefnos wedi i'r band o dde Cymru chwarae gig awyr agored arall yn Inverness.

Dywedodd y band eu bod nhw'n awyddus i chwarae i "gynulleidfaoedd newydd mewn trefi a dinasoedd newydd" a hynny ar daith i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf, 'Kind'.

Yn ddiweddar fe ddywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi cynnal trafodaethau i geisio denu gwyliau cerddorol newydd i'r Faenol dros y flwyddyn nesaf.

S锚r byd enwog

Rhwng 2000 a 2008 roedd digwyddiad blynyddol G诺yl y Faenol, gafodd ei sefydlu gan Bryn Terfel, yn denu torfeydd yn eu miloedd i wylio cerddorion byd enwog.

Dros y blynyddoedd fe wnaeth cantorion megis Shirley Bassey ac Andrea Bocelli, bandiau fel Westlife a Girls Aloud, a cherddorion Cymraeg amlwg berfformio ar lwyfan yr 诺yl.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod yr ymdrechion i gynnal gwyliau cerddorol newydd yn rhan o ymgais i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i'r ardal.

Mae'r rhain eisoes yn cynnwys cystadlaethau fel rasys triathlon, beicio mynydd a rhedeg, yn ogystal ag atyniadau fel G诺yl Fwyd Caernarfon.