大象传媒

Syr Bryn Terfel yn anafu ei goes yn Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Syr Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r canwr opera Syr Bryn Terfel wedi ei orfodi i ganslo perfformiadau ar 么l dioddef anaf i'w goes yn Sbaen.

Roedd yn perfformio yn opera The Flying Dutchman gan Wagner pan ddioddefodd yr anaf i'w goes dde wrth gerdded yn ninas Bilbao ddydd Llun.

Derbyniodd gyngor meddygol gan feddygon yn y ddinas a derbyn caniatad i ddychwelyd i Gymru am gyngor a thriniaeth bellach.

Yn 么l datganiad gan ei asiant, fe fydd diweddariad yn cael ei gyhoeddi ar 么l i Syr Bryn ymgynghori ymhellach.