大象传媒

Brexit: Be' mae hyn yn ei olygu i bobl Cymru?

  • Cyhoeddwyd
baneriFfynhonnell y llun, Mike Kemp

Mae tair blynedd a hanner bellach wedi pasio ers i ddinasyddion y Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn amserlen Llywodraeth Prydain bydd y broses o adael yn digwydd yn swyddogol ar Ddydd Gwener, 31 Ionawr.

Ond faint ydych chi'n ei wybod am y broses o adael, a beth fydd yn ei olygu i bobl Cymru? Cemlyn Davies fu'n ateb ein cwestiynau.

Pam fod 31 Ionawr yn ddiwrnod arwyddocaol?

Dyma'r diwrnod y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi 47 mlynedd o fod yn aelod. Fyddwn ni ddim mwyach yn rhan o sefydliadau'r Undeb ond bydd y DU yn dal i orfod cyfrannu i gyllideb yr Undeb a dilyn ei rheolau am gyfnod.

Bydd Brexit yn digwydd yn swyddogol am 11 o'r gloch yr hwyr - hanner nos ym Mrwsel. Mae dathliadau wedi eu trefnu gan gefnogwyr Brexit y tu allan i Senedd San Steffan. Ym Mae Caerdydd bydd baner yr UE yn cael ei gostwng y tu allan i'r Senedd.

Beth sy'n digwydd ar 么l 'diwrnod Brexit'?

Yn syth ar 么l i Brexit ddigwydd bydd cyfnod trosglwyddo'n dechrau. Ar hyn o bryd mae disgwyl i hwnnw bara' tan ddiwedd 2020 ac yn ystod y cyfnod yma bydd y mwyafrif helaeth o bethau sy'n ymwneud 芒'n perthynas ni gyda'r UE yn parhau fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.

Fydd yna ddim gwiriadau newydd ar y ffin er enghraifft, fydd ddim cwotau na threthi newydd ar nwyddau chwaith. Bwriad y cyfnod hwn yw rhoi cyfle i Lywodraeth Prydain a Brwsel ffurfio cytundeb masnach newydd ar gyfer y dyfodol.

Ond bydd hi'n ras i gwblhau'r trafodaethau cyn diwedd y flwyddyn. Fe barodd y trafodaethau dros gytundeb rhwng yr Undeb a Chanada am saith mlynedd ac mae Boris Johnson wedi dweud yn barod nad oes unrhyw fwriad ganddo i ymestyn y cyfnod.

Ffynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sut berthynas fydd yn datblygu rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn sgil Brexit?

Roedd y refferendwm yn 2016 - pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i bethau ddigwydd?

I raddau helaeth penderfyniad Theresa May, tra'n cerdded yn ardal Dolgellau, i alw etholiad cyffredinol yn 2017 sy'n egluro oedi. Hynny a'r rhaniadau o fewn ei phlaid ei hun.

Fe gollodd hi ei mwyafrif yn Nh欧'r Cyffredin, wnaeth hi'n amhosib iddi gael ei chytundeb Brexit drwy'r Senedd. Y trefniadau ar gyfer backstop Gwyddelig - polisi yswiriant i atal ffin galed ar ynys Iwerddon - oedd y prif faen tramgwydd.

Methodd Mrs May ag ennill y pleidleisiau roedd eu hangen o fewn ei phlaid ei hun na 'chwaith ar feinciau'r DUP, ac felly bu'n rhaid ymestyn y broses Brexit dair gwaith.

Mae'r hanes wedi bod yn gwbl wahanol wrth ers i Boris Johnson ennill mwyafrif cyfforddus yn yr etholiad cyffredinol.

Beth yw'r materion sydd yn rhaid cytuno arnyn nhw?

Bydd y trafodaethau'n canolbwyntio ar fasnach rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Os ydy'r DU yn benderfynol o adael marchnad sengl ac undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd mae hynny'n debygol o arwain at drethi newydd ar allforion.

Bydd angen i'r ddwy ochr benderfynu hefyd sut y byddan nhw'n cydweithio ar faterion yn ymwneud 芒 diogelwch a phlismona, yn ogystal 芒 meysydd eraill ble mae 'na gydweithredu ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, FREDERICK FLORIN
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg, sy'n eistedd am wythnos bob mis - gweddill o'r amser mae'r aelodau yn ymgynnull ym Mrwsel

Ble mae'r pleidiau gwahanol yng Nghymru'n sefyll ar y datblygiadau?

Polisi Llafur Cymru yn yr etholiad cyffredinol oedd y byddai'r blaid yn ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai refferendwm arall. Roedd Plaid Cymru hefyd eisiau aros yn yr Undeb. Y flaenoriaeth i'r ddwy blaid nawr ydy sicrhau perthynas mor agos 芒 phosib gyda'r Undeb.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ymdrechion Boris Johnson. A thra bod Plaid Brexit yn trefnu parti ar gyfer nos Wener, bydd ei haelodau'n cadw llygad barcud ar beth sy'n digwydd nesa' er mwyn ceisio sicrhau nad yw'r berthynas gyda'r Undeb yn rhy agos yn y dyfodol.

Beth yw'r heriau sy'n benodol i Gymru?

Mae 60% o holl allforion Cymru'n mynd i'r UE, gan gynnwys 90% o'r holl gig oen mae ffermwyr Cymru'n ei allforio. Wrth reswm felly bydd yna graffu i weld beth fyddai effaith unrhyw gytundeb masnach newydd ar hynny, ac yn enwedig a fydd trethi newydd yn cael eu codi gan yr Undeb ar ein hallforion.

A beth am borthladdoedd fel Caergybi allai weld tagfeydd mawr os oes angen gwirio nwyddau sydd ar eu ffordd i Iwerddon?

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beth fydd Brexit yn ei olygu i borthladd a thref Caergybi?

Beth fydd y datblygiadau nesaf?

Bydd y ddwy ochr nawr yn amlinellu beth maen nhw'n gobeithio'i sicrhau o'r trafodaethau sydd i ddod. Bydd angen i holl wledydd yr Undeb gytuno ar eu gofynion ac felly mae'n debygol na fydd cychwyn ar y trafodaethau go iawn rhwng y DU a Brwsel tan fis Mawrth.

Beth ydych chi'n eu rhagweld fel y newidiadau mwyaf fydd yn wynebu pobl Cymru dros y 3-5 mlynedd nesaf?

Un peth dwi wedi ei ddysgu yn y swydd yma dros y blynyddoedd diwethaf yw ei bod hi'n amhosib rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd nesa'!

Wedi dweud hynny, wrth gwrs bydd yna rai newidiadau i'r berthynas gyda'r UE. Y cwestiwn mawr yw pa mor agos fydd y berthynas yma yn y dyfodol.

A chwestiwn arall yw sut fydd y broses yma'n dylanwadu ar ein gwleidyddiaeth ni, o gofio bod etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa'?

Hefyd o ddiddordeb: