Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Y comed茂wr Steffan Alun
Y comed茂wr Steffan Alun sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Gruffudd Owen yr wythnos diwethaf.
Mae Steffan yn adnabyddus am wneud i bobl chwerthin ar raglenni comedi S4C ac mae hefyd i'w weld ar fideos .
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod yn styc ar ymyl ffordd. Bws 'di torri lawr neu rywbeth - yr oll o'n i'n ei gofio oedd fi a Mam ymhlith criw o bobl, yn oer ac yn aros.
Flwyddyn neu ddwy yn 么l, meddyliais i s么n wrth Mam am yr atgof. "Dyna be' ti'n gofio?" medde hi. "Dim arall?" Na, do'n i ddim yn cofio mwy na hynny. Pam? "Steff, roedd y bws ar d芒n!"
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dinah Glass, sef prif gymeriad The Demon Headmaster. Roedd hi'n bert, yn glyfar, ac yn gallu difetha' cynlluniau dihirod. Ideal.
A hefyd, Bulk, y bwli o Power Rangers. Crysh lot llai rhesymol.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Wff, perfformio i dwymo cynulleidfa ar gyfer rhaglen S4C - a NEB yn chwerthin. Neb o gwbwl, am y perfformiad cyfan. Hunllef.
(Gwnaeth rywun roi gwbod i mi wedyn nad oedd y gynulleidfa'n siarad Cymraeg. Neb wedi fy rhybuddio!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Rwy'n cr茂o'n hawdd iawn - unrhyw ffilm neu raglen deledu. Tro diwethaf? Doctor Who, mae'n si诺r.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Ych, gemau ff么n symudol. Mor hawdd mynd yn gaeth iddyn nhw! Darllenais i'n ddiweddar bod y cwmn茂au sy'n eu creu yn cyflogi arbenigwyr dibyniaeth. Yn y dyfodol, byddwn ni'n eu hystyried bron mor niweidiol 芒 gamblo, heb os.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Sain Ffagan. Wrth fy modd! Am syniad gwych am amgueddfa. Rhyd-y-car yw'r gorau - rhes o dai teras o Ferthyr, lle mae'r tu mewn yn edrych fel cyfnod gwahanol, o 1805 i 1985. Anhygoel gweld sut mae cartrefi wedi newid mewn 200 mlynedd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
I ddechrau, pob pen-blwydd perthynas fi a ngwraig. Digon syml - awn ni am fwyd yn rhywle yn Abertawe, wedyn tacsi n么l adre i wylio'r teledu a chwarae g锚ms. Edrych ymlaen bob blwyddyn!
Ac yn ail, sesh gyda hen ffrindiau cyfieithu. Jyst diwrnod mawr o yfed a sgwrsio a chario clecs - trio gwneud unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, pan fydd yr amser ganddon ni.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Secsi. Cryno.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
13 Going On 30 a Dan Gadarn Goncrit, wrth gwrs.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Russell T Davies. Mae ei arddull sgwennu yn obsesiwn i fi. A does dim byd gwell na Chymro hyderus chwaith.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Es i ar gwrs i ddysgu consurio pan o'n i'n fy arddegau. Dal i ymddiddori mewn consurio, ond heb ddigon o amynedd i'w wneud yn broffesiynol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bwyta ac yfed yn gwbl afresymol. A cheisio casglu fy ffrindiau a theulu pwysicaf ynghyd. Gwrando ar gerddoriaeth.
Chwerthin fyddwn ni. O ran fy ffrindiau a fy nheulu, ry'n ni'n bobl sy'n gallu chwerthin drwy'r cyfnodau tywyllaf.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
I Will Survive gan Gloria Gaynor. Pam? Gan mai honno yw'r g芒n orau yn y byd, wrth reswm.
O archif Ateb y Galw:
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Bara garlleg a chaws fel cwrs cyntaf. Tsili fy ngwraig fel prif gwrs. Hufen i芒 mint choc chip i bwdin.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Yr ateb cyfrifol yw'r Prif Weinidog, mae'n si诺r. Trosglwyddo llawer mwy o rym i Gymru, rhoi'r sac i ffasgiaid newydd yn y blaid, a phasio cyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon i ddweud celwydd mewn papurau newydd a hysbysebion gwleidyddol.
O, na, acjwli - Dwmplen Malwoden. Jyst i weld sut mae'n teimlo.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Elin Harries