大象传媒

Teyrnged i ddyn ifanc wedi gwrthdrawiad ym Mhen Ll欧n

  • Cyhoeddwyd
Gryffudd Rhun JonesFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Ll欧n wedi talu teyrnged i "fab, g诺r, tad a brawd tu hwnt o gariadus".

Bu farw Gryffudd Rhun Jones, oedd yn 27 oed ac o ardal Brynaerau, Rhosfawr yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Llithfaen a Phentreuchaf yn oriau m芒n fore Sul.

Roedd y digwyddiad toc cyn 01:50 yn ymwneud 芒 char Skoda Octavia du, a bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Jones ei fod yn "fab, g诺r, tad a brawd tu hwnt o gariadus ac mi fydd yn golled enfawr i bawb".

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, ac y dylai unrhyw un 芒 gwybodaeth gysylltu 芒 nhw.