大象传媒

Cyhoeddi 拢6.5m i ofal canser digidol i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Arbrawf canserFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 拢6.5m ar gyfer gwasanaeth gofal canser digidol newydd yng Nghymru.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd y system newydd yn disodli'r un sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan ganolfannau canser yng Nghymru.

Bydd modd integreiddio'r system 芒 gwasanaethau digidol lleol a chenedlaethol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, a'r gobaith yw y bydd y system newydd ar gael yn genedlaethol o 2022 ymlaen.

Dywedodd Mr Gething: "Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn gwella ond rydw i am i ni wella eto hyd yn oed. Dyna pam rydyn ni'n gweithio i wella prydlondeb, cysondeb ac ansawdd y gofal canser a gynigir yma yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad yn cynnig "gwasanaeth digidol mwy diogel, dibynadwy ac integredig ar gyfer gofal canser ym mhob cwr o Gymru... ac yn cefnogi'r gwaith o sefydlu Llwybr Canser Unigol cyntaf y Deyrnas Unedig ac yn helpu i wireddu ein dymuniad i adeiladu Canolfan Ganser newydd yn Felindre".

Galw am ganolfan ddiagnosis

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi galw eto am sefydlu canolfan ddiagnosis am ganser yng ngogledd Cymru.

Dywed y blaid fod ffigyrau newydd yn dangos fod "pobl yn y gogledd yn wynebu llawer mwy o siawns o ddatblygu canser na gweddill Cymru".

Yn 么l gan Ymchwil Cancr y Gogledd-Orllewin mae pobl sy'n byw yng ngogledd Cymru yn wynebu risg uwch o ddatblygu canser na gweddill y wlad.

Dywed yr ymchwil fod gan ogledd Cymru "nifer o heriau iechyd penodol" a "gor-fynegeion ar 17 math o ganser" o gymharu 芒'r cyfartaledd Cymreig.

Ymchwil

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon, Si芒n Gwenllian: "Mae ymchwil wedi dangos fod pobl yng ngogledd Cymru yn wynebu risg llawer uwch o ddatblygu canser na gweddill Cymru, ond does gennym ni ddim canolfan diagnosis cynnar yma yn y gogledd.

"Mae cleifion yng ngogledd Cymru yn haeddu cydraddoldeb gofal a gwasanaeth. Dyna pam fod Plaid Cymru yn galw am fuddsoddi yn natblygu canolfan ddiagnostig yma yng ngogledd-orllewin Cymru i sicrhau diagnosis cynnar a gwell canlyniadau i'n cleifion.

"Mae Plaid Cymru eisiau sicrhau y gall pawb gael profion diagnostig a diagnosis cynnar ymhen 28 diwrnod a buasem yn datblygu tair o Ganolfannau Diagnostig Brys yng Nghymru i gael profion yn gynt. Buasem yn ei gwneud yn haws i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol i gyfeirio cleifion i'r canolfannau hyn".