Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mam, fi a chanser y fron
Mae Eve Lewis yn 19 oed ac yn byw gyda'i mam, Tracy, ger Aberd芒r. Pan gafodd Tracy Lewis ddiagnosis o ganser y fron, roedd Eve wedi synnu cyn lleied o wybodaeth sydd yna i ferched ifanc am y math yma o ganser.
Yma mae Eve Lewis yn ysgrifennu am brofiad ei mam o gael y canser yn 47 oed, ac mae'n ceisio codi ymwybyddiaeth merched ifanc o bwysigrwydd archwilio eu bronnau am unrhyw symptomau:
Ar 7 Awst 2018, roedd byd fi a fy mam wedi cael ei droi ar ei ben pan ddaeth y newyddion eu bod nhw wedi ffeindo rhywbeth ym mron Mam.
Dechreuodd y daith yma yn gynnar yn 2018 pan gerddodd fy mam i fy ystafell wely yn gofyn i fi os oeddwn i'n gallu gweld unrhyw beth o'i le efo'i bronnau hi.
Parhaodd y cwestiynau am wythnos, cyn i fi ddweud "yr unig ffordd chi'n mynd i wybod go iawn yw i weld y doctor".
Y dydd nesaf roedd hi gyda'r doctor, ac fe wnaethon nhw ei hanfon hi i ysbyty i weld arbenigwr. Roedd pawb yn bendant mai'r hyn oedden nhw'n ei deimlo oedd syst, yn cael ei achosi gan ei hoedran hi a'r menop么s.
Ond, yn 47 oed, cafodd Mam ddiagnosis o ganser y fron. Roedd yn rhaid iddi gael llawdriniaeth mastectomy (i godi'r fron) a radiotherapi hefyd.
Roedd e'n amser caled i bawb. Roedden ni newydd golli Dad-cu a Nain i ganser, felly pan glywais bod Mam hefyd wedi cael canser, roedd e fel fy mod wedi cael fy mwrw yn fy stumog.
Roedd Mam yn gryf ond yn ofnus. I fi, roedd e fel bod mewn damwain car yn mynd mewn slow motion, yn methu 'neud dim byd i helpu na dianc. Roedd yn rhaid i fi fod yn fam i Mam am ychydig o amser, i'w helpu ddod drwy'r amser caled.
Roedd e'n anodd i Mam achos doedd hi byth yn s芒l a'i r么l hi oedd i edrych ar 么l pawb arall, felly pan ddigwyddodd y diagnosis hyn roedd e'n galed i bawb, ond roedd e'n galed i fi achos mae Mam a fi yn agos, fel ffrindiau gorau. Rydyn ni fwy fel chwioredd na mam a phlentyn.
Ond ar y daith yma, trwy bopeth, roedd un peth yn aros gyda fi, sef sgwrs ges i a Mam un diwrnod am mamogramau. Sylweddolais eu bod nhw ond yn cael eu cynnig ar yr NHS i fenywod rhwng 50 a 70 oed, bob tair blynedd.
Roedd gan Mam symptomau. Roedd ganddi lwmp yn ei bron, ac felly aeth hi at y doctor. Ond os nad oedd ganddi symptomau amlwg, byddai wedi aros tair blynedd arall cyn cael prawf mamogram, a beth fydden ni wedi bod yn ei wynebu wedyn?
Mae rhai menywod ddim yn cael symptomau, felly mae hwnna yn gwneud i fi bryderu am y rhai sydd efallai ddim hyd yn oed yn gwybod bod ganddyn nhw ganser y fron.
Menywod yn ysbrydoli
Wrth i fi ymchwilio fwy i mewn i'r pwnc yma, fe wnaeth dwy fenyw fy ysbrydoli i. Roedd Kristin Hallenga ddim ond yn 23 oed pan gafodd ddiagnosis o secondary breast cancer. Cafodd gymaint o sioc i gael y newyddion yma, fe ddechreuodd elusen o'r enw , i ddangos mai nid pobl sydd yn eu 50au yn unig sy'n gallu cael canser y fron, ond merched ifancach hefyd.
Menyw arall sydd wedi fy ysbrydoli i ydy Lauren Mahon. Gwelais i Lauren gyntaf ar raglen deledu First Dates ar Channel 4. Roedd hyn yn fuan ar 么l beth oedd wedi digwydd i Mam. Fe wnaeth Lauren ddarganfod lwmp yn ei bron a ffeindo mas roedd e'n stage 3 cancer. Roedd hi ond yn ei 30au, ac oherwydd roedd ganddi fronnau bach doedd hi dim yn meddwl y gallai canser y fron fod wedi effeithio arni hi.
Mae Lauren Mahon, fel Kristin Hallenga, wedi troi rhywbeth negyddol i mewn i rywbeth addysgol, a chreu siop sy'n gwerthu dillad efo dyfyniadau arnyn nhw, gyda'r elw yn mynd i elusennau canser.
Mae canser yn rhywbeth sy'n codi ofn, dwi'n gwybod, ond mae'n bwysig heddiw pan ni'n byw mewn byd lle bydd un o bob dau berson yn mynd i ddioddef rhyw fath o ganser yn ystod eu bywyd, [yn 么l gwefan Cancer Research,] mae'n rhaid i ni stopio 'neud canser yn bwnc tab诺.
'Eisiau codi ymwybyddiaeth mewn merched ifanc'
Yn ddiweddar, mae llawer iawn o sylw gwych wedi bod yn y wasg a'r cyfryngau am ganser ceg y groth (cervical cancer), gyda hysbyseb teledu sydd yn ysbrydoli merched fel fi.
Rydw i am weld rhywbeth tebyg am ganser y fron, achos ar hyn o bryd mae'n cael ei anelu at fenywod h欧n, ond mae angen anelu at ferched ifancach a hefyd dynion. Dydy rhai dynion ddim hyd yn oed yn gwybod eu bod nhw'n gallu dioddef o ganser y fron.
So pl卯s, os ti'n cymryd unrhywbeth o'r erthygl yma, checia dy fronnau neu gofynna i dy bartner i 'neud e, cael hwyl efo fe, paid 芒 bod yn ofnus o adnabod dy gorff. Bydd yn hyderus a siarad amdano fe.
Bydd siawns o achub bywydau.
Gan Eve Lewis (Rhan o brosiect Gohebydd Ifanc y 大象传媒)
Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ym mis Ebrill 2019
Hefyd o ddiddordeb: