Murlun newydd i adfywio stryd fawr Nefyn
- Cyhoeddwyd
Mae murlun trawiadol wedi ei gwbhau ar stryd fawr yn un o drefi Pen Ll欧n, fel rhan o ymderchion i adfywio'r dref.
Cafodd y murlun ar dalcen adeilad yng nghanol Nefyn ei greu gan yr artist lleol Darren Evans, ac mae'n dathlu treftadaeth a hanes morwrol unigryw yr ardal.
Gwirfoddolwyr tu 么l i gynllun i ailagor Tafarn yr Heliwr yn Nefyn sydd yn gyfrifol am y syniad, ac fe gafodd ei ariannu gan gronfa Prosiect Strydoedd Unigryw Arloesi Gwynedd Wledig.
Bwriad y gronfa ydi cynyddu nifer yr ymwelwyr i stryd fawr, a'r ardal yn ehangach, a chynyddu lefel o wariant yn lleol yn nghefn gwlad Gwynedd.
Adfywio'r stryd
Y llynedd fe gafodd 200 o ymbarelau eu codi ar stryd yng Nghaernarfon fel rhan o'r cynllun, a'r gobaith yn Nefyn ydi y bydd y murlun yn adfywio stryd sydd wedi gweld dirywiad dros y blynyddoedd wrth i nifer o siopau gau yno.
Gruffydd Rhodri Evans ydi is-gadeirydd Pwyllgor Tafarn yr Heliwr. Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru Fyw: "Roedden ni eisiau gweld gwelliant ar y stryd fawr ac mae ail-agor y dafarn yn gatalyst i adnewyddu'r stryd fawr. Mi edrychon ni ar botiau o arian ac mi roddodd hyn syniadau i ni wneud pethau eraill.
"Roedd Arloesi Gwynedd Wledig yn cynnig grant i wneud prosiect yn ymwneud a gwella strydoedd fawr trefi Gwynedd ac fe gafwyd ceisiadau o wahanol lefydd.
"Mae 10 siop wedi troi yn dai ar y stryd yn y 10 mlynedd diwethaf. Roedd ganddo ni dalcen adeilad blanc wrth ddod i mewn i Nefyn ac roedd y perchenog yr adeilad wedi trio cael arian i wneud rhywbeth ers blynyddoedd.
Ychwanegodd: "Mae'r gwahaniaeth yn y stryd fawr rhwng rwan a 30 mlynedd yn 么l yn syfrdanol. Mae na wahanol resymau am y dirywiad - rhesymau corfforol, mae'n gul, dim pafin a diffyg parcio, a phroblemau hefo perchnogaeth rhai adeiladau".
Tafarn
Roedd Tafarn yr Heliwr ei hun wedi bod ar gau ers 2009 ac roedd ar werth ers 2016. Yn 2018 daeth nifer o wirfoddolwyr lleol at ei gilydd a phenderfynu ceisio codi arian i'w hailagor.
Ar 么l codi 拢82,000 drwy gyfranddaliadau, fe lwyddodd y gwirfoddolwyr i sicr hau nawdd o bron i 拢250,000 yn grant gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn 2019.
Y llynedd fe gafodd Parti ar y Pafin ei gynnal gan y gwirfoddolwyr yn Nefyn fel rhan o'r ymdrech i geisio denu pobl i'r stryd fawr yno.
Bellach mae'r gwaith o adnewyddu'r dafarn ar fin dechrau, ac fe fydd y murlun yn cael ei ddadorchuddio'n swyddogol ar 21 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2019
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018