大象传媒

Gall adweithydd bach cyntaf y DU fod yn Nhrawsfynydd

  • Cyhoeddwyd
Artist impression of SMRFfynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o Adweithydd Modiwl Bach (SMR)

Mae yna "debygolrwydd eithaf uchel" mai yn Nhrawsfynydd fydd safle atomfa fechan gyntaf y DU, yn 么l Rolls-Royce.

Mae'r cwmni eisiau codi rhwydwaith o Adweithyddion Modiwl Bach (SMR) - tua thraean maint yr atomfeydd presennol - ac yn gobeithio dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU o fewn y flwyddyn nesaf.

Yn 么l y cwmni mae safle'r hen adweithydd yng Ngwynedd yn "ticio'r holl flychau" o ran arloesi gyda'r dechnoleg.

Tua 200 sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd yn Nhrawsfynydd ac fe allai adweithydd bach greu hyd at 600 o swyddi yn yr ardal, yn 么l Parth Menter Eryri.

Dyw Rolls-Royce ddim yn cynnig ffigwr penodol eto ond yn gobeithio y bydd 40,000 o bobl yn cael gwaith, gan gynnwys swyddi'r cyfnod adeiladu.

Pe bai'r cynllun yn cael s锚l bendith, fyddai hefyd yn un o'r cynlluniau SMR cyntaf drwy'r byd.

Yn y cyfamser, mae arweinydd proses ddadgomisiynu hen atomfeydd Trawsfynydd a Wylfa wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod rhaid i b诺er niwclear fod yn rhan o'r ateb os am gynyddu'r nifer o gerbydau trydan ar y ffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist: Mae Rolls-Royce yn datblygu'r rhaglen SMR ers y 1990au

Mae'n rhatach ac yn gyflymach o lawer i godi adweithyddion bach am eu bod yn cael eu hadeiladu fesul darn a'u rhoi at ei gilydd yn y lleoliad terfynol.

60 mlynedd fyddai ei hoes, gan ddarparu 440 megawat o drydan - sy'n ddigon, medd Rolls-Royce, i gyflenwi ardal yr un maint 芒 Chaerdydd, Abertawe a Chasnewydd gyda'i gilydd.

Mae rhai ag amheuon pa mor gynaliadwy yw'r model SMR yn economaidd, hyd yn oed os fydd modd gwerthu'r dechnoleg i wledydd eraill.

Ond yn 么l prif swyddog technoleg Rolls-Royce, mae'r ffiseg niwclear yr un fath yn union ag yn achos atomfeydd mawr ond am gost sylweddol is.

"Mae gostyngiad y gost mor radical nes ein bod nawr yn siarad yn nhermau ynni niwclear ar bris ynni gwynt," medd Paul Stein.

'Pobl lleol yn fodlon'

Er bod adweithyddion bach angen llai o amser a gwaith adeiladau, mae'n fwriad i godi mwy ohonyn nhw a chynlluniau ar gyfer hyd at 16.

Y gobaith yw cynhyrchu trydan mewn wyth i 10 mlynedd, ac "mae yna debygolrwydd eithaf uchel" mai yn Nhrawsfynydd fydd hynny'n digwydd gyntaf, medd Mr Stein.

"Mewn ardaloedd brown, ble bu atomfa, mi wyddwn fod y boblogaeth leol yn fodlon," ychwanegodd.

"Mae yna weithwyr lleol gyda'r sgiliau oedd yn arfer rhedeg y pwerdy, mae yna gysylltiad 芒'r grid, ac mae gyda chi gyflwr seismig y safle.

"Dyna i chi dic ymhob blwch, ac mae Trawsfynydd yn safle cyntaf gwych ar gyfer SMR."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen pwyso a mesur, medd y Cynghorydd Elfed Roberts

Mae angen swyddi safonol yn ardal Trawsfynydd, medd y cynghorydd lleol, Elfed Roberts ond mae gofyn am gydbwysedd.

"Rhaid i ni edrych arno'n ofalus," dywedodd. "Mae yna groeso i unrhyw waith yn yr ardal yma, yn arbennig i bobl ifanc, ond mae'n rhaid cydbwyso hynny hefo diogelwch.

"Rhaid gwneud mwy o waith cartre' a phenderfynu'n ofalus ar 么l edrych ar bopeth o blaid ac yn erbyn."

Mae Rolls-Royce hefyd yn credu bod modd codi SMR yn Wylfa, ond mae datblygwyr safle Wylfa Newydd, Horizon wedi gwrthod y syniad gan obeithio bydd hi'n dal yn bosib codi atomfa maint llawn yno.