´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Yr actor Aled LlÅ·r Thomas

  • Cyhoeddwyd
Tyler

Yr actor Aled Llŷr Thomas sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Elin Harries yr wythnos diwethaf.

Aled sy'n chwarae Tyler yn Pobol y Cwm, ac mae'r cymeriad yn mynd drwy amser anodd ar hyn o bryd...

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fi'n cofio esgus bod yn sâl un bore yn yr ysgol feithrin. Llefen a sgrechen er mwyn mynd adref a Mam yn dod i ôl fi. Defnyddio technegau actio yn ifanc iawn, mae'n amlwg!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'n i'n ffan masif o WWE/WWF pan o'n i'n ifanc ac o'n i gyda crush enfawr ar reslar o'r enw Torrie Wilson. Hefyd Hermione Granger o ffilmiau Harry Potter.

Ffynhonnell y llun, Gabe Ginsberg
Disgrifiad o’r llun,

Y reslar WWE o America, Torrie Wilson

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Nes i droi i fyny i faes awyr Bryste yn barod i hedfan i Iwerddon er mwyn ffilmio Celwydd Noeth cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Nes i sylweddoli bo' fi heb cael y boarding pass eto gan y tîm cynhyrchu felly nes i ffonio i weld beth oedd yn digwydd.

Aled: "Hia Aled sydd 'ma, fi heb dderbyn boarding pass fi eto er mwyn hedfan i ffilmio?"

Tîm Cynhyrchu: "O reit ocê, hmm 'sai'n credu bod ni wedi derbyn dy boarding pass eto hefyd."

Aled: "Ah reit, wel... umm... fi yn y maes awyr nawr. Beth i fi fod i 'neud?"

Tîm Cynhyrchu: "Aled, ti yn sylweddoli ti ddim yn ffilmio tan mis nesaf...?

Aled " … ah.

Embarrassing, siomedig… twpsyn.

O archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn anffodus mi golles i fy nhad cyn Nadolig. Roedden ni'n agos iawn ac yn ffrindiau gorau. Dyn arbenning! Fi'n gweld ei eisiau pob dydd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ffôn symudol! Fi'n gwario lot gormod o amser arno. O hyd yn clywed "cer off y ffôn 'na grwt!" gan aelodau o'r teulu.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Yn Aberystwyth yng nghwmni'r teulu. Does unman yn well nag adref nagoes?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ges i'r fraint o weithio yn y Sydney Opera bar tra oeddwn yn byw yn Awstralia. Wnes i weithio shifft ar gyfer y dathliad flwyddyn newydd; profiad anhygoel oedd gweld yr arddangosiad tân gwyllt o'r safle gorau posib.

Ffynhonnell y llun, James Gourley
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân gwyllt nos calan yn Sydney yn wefreiddiol bob blwyddyn

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hwyl, bywiog a spontaneous.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Twin town! Fi'n dwli ar y ffilm. "Hotdogs for tea boys!"

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Bu farw fy mam-gu, Mam-gu Bont, sef mam mam-gu, pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd. Roedd Mam-gu Bont yn superfan o Pobol y Cwm. O'dd hi byth yn colli unrhyw bennod a fi'n cofio gwylio nifer o benodau gyda hi o flaen y tân ym Mhontrhydfendigaid.

Felly fydden i wrth fy modd yn cael te a chacennau gyda hi wrth drafod Pobol y Cwm a gweld ei ymateb hi bod fi nawr yn aelod o'r cast.

Ffynhonnell y llun, Aled LlÅ·r Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Aled gyda Mam-gu Bont - fyddai wedi bod wrth ei bodd i wybod fod ei hŵyr ar ei hoff raglen deledu!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Heiro neuadd enfawr a gwahodd teulu, ffrindiau gorau a phawb fi'n 'nabod. Thema gwisg ffansi (with gwrs), dathliad enfawr gyda digon o ddiodydd a bwyd! Pawb yn mwynhau ac yn adrodd atgofion.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Praise You gan Fatboy Slim. Cân uplifting a hwyl sy'n atgoffa fi o'r haf am ryw reswm.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i matching tatŵ efo fy ffrind gorau Lloyd. Trwy gydol yr amser o'n ni'n y brifysgol roedden ni'n cael ein hadnabod fel 'Alloyd'.

Wnaethon ni benderfynu cael tatŵs wedi ei seilio ar ein cyfeillgarwch felly penderfynwyd ar… lun o Mistar Urdd efo #Alloyd oddi tano!

Ffynhonnell y llun, Aled LlÅ·r Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Tatŵ cwbl unigryw Aled (heblaw am yr un hollol yr un fath sydd ar gorff Lloyd wrth gwrs...)

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Soup of the day gyda bara ffres a menyn. Lasagne Mam ar gyfer prif gwrs. A cheescake i bwdin bob tro!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwayne 'The Rock' Johnson neu Gareth Bale - vivvaaaaa Gareth Bale!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Morgan Hopkins

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw