大象传媒

Storm Dennis: Llifogydd difrifol yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
High river level at TreforestFfynhonnell y llun, @gtfm1079
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr afon Taf yn llifo drwy Trefforest, ger Pontypridd,fore dydd Sul

Mae rhannau o dde Cymru wedi gweld llifogydd sylweddol ddydd Sul, ac mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi fod y llifogydd yn "ddigwyddiad difrifol".

Mae cannoedd o gartrefi a busnesau wedi eu heffeithio gan lifogydd ac fe dderbyniodd y gwasanaethau brys bron i 1,000 o alwadau ers hanner nos medd Gwasanaeth T芒n De Cymru.

Y gred yw bod gwerth mis o law wedi disgyn mewn cyfnod o 48 awr yn unig.

Nos Sul dywedodd cwmni Western Power bod 2,045 cartref yn parhau heb b诺er a'u bod wedi llwyddo i gysylltu 19,843 eiddo.

Llifogydd difrifol

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi degau o rybuddion tywydd ar hyd Cymru yn ystod y bore, gyda dau rybudd difrifol mewn grym am gyfnod.

Yn ardal Rhondda Cynon Taf, roedd Pontypridd a Ffynnon Taf wedi dioddef llifogydd difrifol gyda cheir a strydoedd dan dd诺r. Mae llifogydd wedi effeithio ar Grughywel hefyd.

Fore Sul fe wnaeth Heddlu Gwent rybuddio pobl ym mhentref Ynysgynwraidd ym Mynwy i adael eu cartrefi o achos llifogydd.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd i gorff dyn oedd wedi marw ar 么l iddo ddisgyn i'r afon yn Ystradgynlais am tua 10:00. Fe gafwyd hyd i'w gorff yn ddiweddarach ar ran o'r afon yn ardal Trebanos.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Disgrifiad,

Pontypridd dan dd诺r - ond y gyrwyr yma'n poeni dim!

Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi agor canolfannau argyfwng yng nghanolfannau hamdden Merthyr ac Aberfan i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd.

Ac yn ardal Rhondda Cynon Taf mae canolfannau hamdden Sobell, y Ddraenen-wen, Llantrisant a Chanolfan Chwaraeon y Rhondda wedi eu hagor i'r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Cafodd pentrefwyr yn Nhonna ger Castell-nedd eu cludo o'r pentref ar fysiau fore Sul.

Ffynhonnell y llun, Tracey Newman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

T媒 dan dd诺r yn Nantgarw

Wrth edrych ar y llifogydd yng nghanol Pontypridd ddydd Sul, dywedodd Jack Jones, sydd yn byw yn lleol ac yn gweithio yng Nghlwb y Bont nad oedd wedi gweld unrhyw beth tebyg yn ei fywyd:

"Rwy'n byw yma ers 25 o flynyddoedd a dydw i heb weld llifogydd fel hyn o'r blaen...Ro ni'n gweithio fel arfer a tua wyth o'r gloch roedd cymaint o dd诺r wedi dechrau dod i mewn i'r clwb a suddo mewn i'r bar doedd dim choice ar 么l ond cau lan a gobeithio bod popeth yn troi mas yn iawn yn y bore.

"Ond wrth gwrs dyw hyn ddim wedi digwydd. Gobeithio bod y clwb yn iawn ond mae gen i syniad bod llawer o bethau yn mynd i wastraffu mewn yn fana nawr".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Achub teulu o lifogydd yn Nantgarw

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Dywed Traffig Cymru fod nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio gan lifogydd dros nos, ac mae .

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybuddion coch am dywydd garw yn ardaloedd Blaenau Gwent, Pen y Bont ar Ogwr, Caerfffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynnwy, Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen ar gyfer bore Sul.

Roedd rhybudd oren am law trwm mewn grym hyd at 15:00 i rannau helaeth o Gymru, gyda disgwyl i 40mm o law i ddisgyn, a 120mm i ddisgyn ar dir uchel.

Ymhlith safleoedd eraill sydd o dan dd诺r mae maes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ond does dim difrod i adeiladau gan eu bod ar dir uwch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pontypridd yn dilyn y glaw nos Sadwrn

Ffynhonnell y llun, Bronwyn Phillips
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ceir a gerddi dan dd诺r ym Mhontypridd dros nos

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caeau Pontcanna yng Nghaerdydd dan dd诺r