´óÏó´«Ã½

Elystan Morgan: 'Angen diwygio, nid diddymu TÅ·'r Arglwyddi'

  • Cyhoeddwyd
Elystan Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr Arglwydd Elystan Morgan ymddeol o DÅ·'r Arglwyddi ar 12 Chwefror eleni yn 87 oed

Cafodd yr Arglwydd Elystan Morgan ei benodi i DÅ·'r Arglwyddi yn 1981, ac wrth iddo ymddeol, mae ganddo farn bendant am ei ddyfodol.

Mae'n cyfaddef bod yna wendidau ond yn mynnu bod dyfodol i'r TÅ· uchaf.

"Ei wendid yw'r ffaith ei fod yn annemocrataidd, ei gryfder yw'r ffaith ei fod yn annibynnol," meddai.

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, a'r cyn-farnwr, yn dadlau bod angen diwygio'r TÅ·, nid ei ddiddymu.

Credai fod yr aelodau weithiau'n agosach at farn trwch y boblogaeth na ThÅ·'r Cyffredin oherwydd bod yr aelodau'n annibynnol eu barn, heb fod ynghlwm wrth blaid.

Mae'n derbyn yn llawn bod y gair olaf a'r awdurdod gyda ThÅ·'r Cyffredin, ac iawn yw hynny, meddai, er mwyn i ddemocratiaeth weithio.

Ond mae'n dweud fod rôl yr Arglwyddi yn wahanol ac yn allweddol wrth ymchwilio i faterion, a dal y Tŷ cyntaf i gyfrif.

"Er bod lot o sŵn a ping pong gwleidyddol, yn y diwedd rhaid rhoi mewn i Dŷ'r Cyffredin, y Tŷ etholedig, ac iawn hynny," meddai.

'Gohirio nid lladd'

Un newid sy'n cael ei awgrymu ganddo yw bod yna well system o gynrychioli holl wledydd Prydain yn y siambr.

Mae'n galw am system adrannol, a siambrau adrannol er mwyn sicrhau ei fod yn cynrychioli holl wledydd Prydain yn well.

Disgrifiad o’r llun,

Garry Owen yn cyfweld ag Elystan Morgan

Wrth drafod sut byddai hynny'n gweithio, mae'n sôn am sicrhau bod yna gydbwysedd i bobl sy'n dod yna, gan gofio nad yw'n Dŷ etholedig.

"Fe allech gael comisiwn ymgynghorol i benodi'r da a'r cywir i'r TÅ·," meddai.

Mae'n amau'n fawr a oes angen refferendwm i benderfynu a oes angen yr ail DÅ·.

"Fe fydde hynny yn sgarmes go iawn… mae Tŷ'r Arglwyddi yn gweithio ar y cyfan yn ddigon da gan gofio o hyd mai'r tŷ etholedig democrataidd yw Tŷ'r Cyffredin.

"Rôl fawr Tŷ'r Arglwyddi yw gorfodi Tŷ'r Cyffredin i ail feddwl, rôl o ohirio nid o ladd."