YouTube yn 15: Pa artistiaid Cymraeg sy'n boblogaidd?
- Cyhoeddwyd
Ym mis Chwefror 2005 fe gychwynnodd gwefan fyddai'n trawsnewid y ffordd yr ydym yn gwylio a gwrando ar-lein.
15 mlynedd yn ddiweddarach mae hyd at 2 biliwn o bobl yn gwylio fideo ar YouTube pob mis, gyda fideos cerddoriaeth yn rhan fawr o'r apêl.
Felly ynghanol cymaint o ddewis, pa fideos gan artistiaid Cymraeg sydd wedi eu gwylio fwyaf o weithiau? Fe fydd ambell un yn eich synnu...
Rhai o'r artistiaid Cymraeg cyfoes cyntaf i ymddangos ar y wefan oedd Genod Droog, Sibrydion a Brigyn, pan gafodd fideos o gyfres Bandit, S4C eu cyhoeddi yn 2006.
Ymysg yr artistiaid Cymraeg mwyaf poblogaidd ers hynny mae sawl enw cyfarwydd. Mae caneuon Bryn Fôn er enghraifft wedi eu gwylio llawer o filoedd o weithiau, gan gynnwys clasuron fel Ceidwad y Goleudy (239,000), Rebal Wiced (182,000) ac Abacus (179,000).
Mae perfformiadau gan gorau Cymraeg wedi eu gwylio filiynau o weithiau, gydag ymddangosiadau Ysgol Glanaethwy ac Only Boys Aloud ar raglen Britain's Got Talent yn arbennig o boblogaidd.
Ond ac eithrio'r corau, Eve Goodman o'r Felinheli sydd â'r fideo o gân Gymraeg sydd wedi ei wylio fwyaf. Mae ei dehongliad o Dacw 'Nghariad wedi ei wylio dros 1.2 miliwn o weithiau erbyn hyn.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn 2016 fe ddywedodd Eve wrth Cymru Fyw:
"Mae'n braf gwybod bod cymaint o bobl wedi mwynhau'r gân, mi fyddai'n cael lot o ymholiadau trwy YouTube yn gofyn i mi le gallen nhw ei phrynu hi. Dwi wastad yn cael ymateb da hefyd pan fyddai yn ei chanu yn fyw."
Mae'n debyg mai'r gân Gymraeg mwyaf poblogaidd yw Yma o Hyd gan Dafydd Iwan. Mae sawl fersiwn wahanol yn bodoli, ac un o'r rhain bellach wedi ei wylio bron i 650,000 o weithiau.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r cerddor a rheolwr label Yws Gwynedd wedi profi llwyddiant mawr yn cynhyrchu fideos ei hun ar gyfer rhai o'i ganeuon. Mae Sebona Fi wedi tyfu'n anthem gyfoes, ac yn ôl Yws roedd YouTube yn rhan fawr o lwyddiant y gân.
"Roedd Sebona Fi allan am flwyddyn heb fod neb wedi tynnu sylw iddi. Nes i greu fideo i'r gân, a mae'r gweddill yn hanes fel mae nhw'n ddeud.
"Mae pŵer lluniau i gyd-gynd efo cerddoriaeth i weld yn amhrisiadwy. Mae 'na nifer fawr o ffrydio'n dod drwy YouTube dyddiau yma."
Enillodd wobr Y Selar am y fideo cerddoriaeth gorau yn 2015, ac ers y flwyddyn honno mae dros 400,000 wedi gwylio'r fideo.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ogystal â chreu clasuron newydd, mae'r wefan hefyd wedi tyfu'n lle i ddarganfod amrywiaeth cyfoethog o gerddoriaeth amgen Cymraeg y degawdau diwetha'.
Mae sianel Ffarout yn enwedig wedi cofnodi trysorfa o berfformiadau o archifau teledu a radio. Mae bron i 2,500 o fideos cerddoriaeth Gymraeg wedi eu llwytho i'r sianel bellach a nifer o'r rhain yn ganeuon nad oes modd eu darganfod yn rhwydd yn unman arall.
CywTiwb
Ond mae un eicon o Gymru sy'n disgleirio'n fwy llachar na'r un arall ar YouTube. Mae nifer fawr o ganeuon Cyw wedi ei gwylio dros 45,000 o weithiau, gan roi seibiant i genhedlaeth gyfan o rieni blinedig.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, comisiynydd rhaglenni plant S4C, wrth Cymru Fyw: "Mae YouTube wedi bod yn gamechanger i gynnwys plant o bob oed. Erbyn hyn mae mwy o blant a phobol ifanc yn gwylio cynnwys ar YouTube nac ar unrhyw blatfform arall.
"Ers rhai blynyddoedd mae S4C wedi ceisio efelychu atyniad YouTube gan gynnig cynnwys Cyw ar alw trwy CiwTiwb sydd ar wefan Cyw, cynnig bocs sets plant ar Clic ac hefyd rhoi cynnwys ar apiau Cyw.
"Dydy YouTube ddim heb ei beryglon wrth gwrs, dydy'r platfform ddim yn gaeedig ac felly mae modd i blant ddod ar draws cynnwys sy'n anaddas iddyn nhw. Rhaid i rieni a gwarchodwyr fod yn wyliadwrus o hynny ac i blant gael eu haddysgu i ddefnyddio'r platfformau yn gywir."
Ers 2005 wrth gwrs mae llu o wasanaethau ffrydio cerddoriaeth eraill wedi ymddangos. Mae algorithmau a rhestrau chwarae Spotify, Apple Music a'u tebyg wedi datblygu'n fwy a mwy soffistigedig ac artistiad cyfoes fel Alffa, Adwaith ac eraill bellach yn cyrraedd cynulleidfa fwy ar y rhain nag ar YouTube.
Ond ar ben-blwydd y wefan yn 15, a'i dylanwad mor gryf o hyd, beth fyddai cyngor Yws Gwynedd i artistiaid sydd am i'w fideos gyrraedd cynulleidfa fawr ar-lein?
"Y syniadau symlaf sy'n effeithiol weithia' - ond os ydi'r syniad yn gymleth, cariwch 'mlaen i ffeindio ffordd o wneud o cyn penderfynu rhoi'r ffidil yn y to. Disgrifiad fideo cerddorol ydi cyfres o luniau sy'n mynd efo'r gerddoriaeth. Mae pobl jyst isio gweld 'wbath weithia', dim ots os ydi o ddim byd i wneud efo'r gân.
"Pan o'n i'n gweithio yn y byd teledu, roedd 'na ormod o bwyslais ar safon y lluniau. Mae safon ffôn symudol yn hen ddigon da dyddiau yma, y cynnwys ydi'r peth pwysig, nid safon y lluniau."
Dyma restr answyddogol Cymru Fyw o'r caneuon Cymraeg a'r artistiad (ac eithrio corau) mwyaf poblogaidd ar YouTube:
1.Eve Goodman - Dacw 'Nghariad: 1,250,000
2.Dafydd Iwan - Yma o Hyd: 674,000
3.Yws Gwynedd - Sebona Fi: 406,000
4.Clwb Cymru - Sosban Fach: 358,000
5.Gwyneth Glyn - Adra: 343,000
6.Ryan Davies - Myfanwy: 240,000
7.Bryn Fôn - Ceidwad y Goleudy: 231,000
8.Candelas - Rhedeg i Paris: 220,000
9.Lisa Angharad - Anfonaf Angel: 163,000
10.Elin Fflur - Harbwr Diogel: 160,000
Oes rhai ar goll? Rhowch wybod i ni - cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: