Cynnydd yn y galw am boteli llaeth gwydr
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gynnydd yn y galw gan gwsmeriaid am laeth mewn poteli gwydr yn hytrach na rhai plastig, yn 么l dau gwmni cynhyrchu llaeth.
Dywedodd cwmn茂au Muller a Cotteswold Dairy wrth 大象传媒 Cymru eu bod wedi gweld twf yn y galw yn dilyn gostyngiad mewn defnydd o nwyddau plastig.
Mae Gwenda Jones wedi bod yn dosbarthu llaeth mewn poteli gwydr o ddrws i ddrws yn Llanrwst ers 30 mlynedd, ac mae hithau'n dweud fod mwy o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi llaeth mewn poteli gwydr erbyn hyn.
Mae ganddi 300 o gwsmeriaid yn Nyffryn Conwy ac mae hi'n dosbarthu llaeth bum diwrnod yr wythnos, gan godi'n blygeiniol am 04:30 er mwyn dechrau ar ei rownd am 06:00 ar 么l llwytho'r llaeth.
Er ei bod yn dweud fod y swydd yn un galed, mae hi'n mwynhau'r gwaith hyd heddiw.
"Pan nes i ddechrau roedd yn rownd yn fach ac roedd nifer y cwsmeriaid yn mynd yn llai ac roedd yn anodd denu cwsmeriaid newydd," meddai.
"Ond yn ddiweddar mae'r gwaith wedi cynyddu ac rwy'n cael cwsmeriaid newydd o hyd. Dwi newydd gael dau'r wythnos yma.
"Mae mwy o bobl yn gofyn am y gwasanaeth achos mae cymaint o sylw ar y teledu am blastig ac mae mwy a mwy yn troi at boteli gwydr o achos hyn."
Cwsmeriaid newydd
Dywedodd y cwmni cynhyrchu llaeth Muller wrth 大象传媒 Cymru eu bod wedi derbyn 75,000 o gwsmeriaid ychwanegol yn 2019 ac mae 500,000 o gwsmeriaid yn defnyddio eu gwasanaeth dosbarthu poteli gwydr ar hyd y DU ar hyn o bryd.
Dyma'r cynnydd mwyaf i'r cwmni ei weld ers dechrau'r gwasanaeth.
Dywedodd y cwmni ei fod wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant cynnyrch traddodiadol o gefn ei faniau - cynnyrch fel llaeth, wyau a bara - ond hefyd twf mewn cynnyrch penodol fel llaeth organig.
Rhesymau amgylcheddol
Yn 么l cwmni Cotteswold Dairy maen nhw wedi gweld cynnydd 10% mewn rhai ardaloedd yn y defnydd o boteli llaeth gwydr, a'r gred ydy mai rhesymau amgylcheddol sy'n gyfrifol am hyn.
"Mae'n ymddangos fel bod teuluoedd yn dychwelyd i'r ffordd draddodiadol o dderbyn llaeth ar stepen eu drws fel ymgais i fynd i'r afael 芒 materion amgylcheddol," medd llefarydd.
"Rydym yn defnyddio cerbydau trydan a photeli gwydr, ac mae modd eu hail-ddefnyddio 30-50 o weithiau, felly mae'n fwy cynaliadwy o gymharu gyda phrynu potel blastig mewn archfarchnad."
Dywedodd Gwenda Jones fod Llanrwst yn enghraifft o'r tuedd modern o gwtogi ar blastig, ac mae cam o'r fath yn llesol i'r amgylchedd a'r economi lleol.
Ychwanegodd ei bod yn falch o weld yr "hen draddodiad" yn dychwelyd.